Mater - cyfarfodydd
Flintshire Micro-care Project
Cyfarfod: 20/01/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 61)
61 Prosiect Micro-Ofal Sir y Fflint PDF 120 KB
Pwrpas: Derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf am Ofal Micro.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Microcare evaluation report, eitem 61 PDF 558 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Prosiect Micro-Ofal Sir y Fflint
Cofnodion:
Dywedodd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu bod nifer o awdurdodau lleol yn wynebu pwysau o ran bodloni’r galw cynyddol am ofal cymdeithasol, gyda’r boblogaeth h?n sy’n tyfu ac asiantaethau gofal yn ei chael yn anodd recriwtio a chadw gweithwyr a bod darparu gofal i rannau mwy gwledig o’r Sir yn gallu bod yn broblemus. Sefydlwyd mentrau meicro-ofal yn dilyn astudiaeth ddichonoldeb a chael cyllid gan Gadwyn Clwyd a Llywodraeth Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Mackie ei fod yn adroddiad ardderchog gyda straeon o lwyddiant sylweddol clir ac roedd wedi nodi bod yr angen mewn dau faes sef yr angen am gymorth a’r angen am ddarparwyr wedi’u dangos yn y datganiadau yn yr adroddiad. Mewn ymateb i gwestiwn a gododd am y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol a rheol 4 dywedodd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu eu bod wedi cael llawer o sgyrsiau gydag AGC yn ceisio cael meicro-ofal nad oedd wedi’i gynnwys yn y Ddeddfwriaeth ar y pryd. Roedd AGC yn gefnogol iawn ond yn amlwg roeddent wedi’u clymu gan y ddeddfwriaeth. Gobeithiwyd mewn amser y byddai’r Ddeddfwriaeth yn dal i fyny os byddai mwy o awdurdodau lleol yn darparu Meicro-ofal.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones ei bod yn falch iawn i fod yn un o’r awdurdodau cyntaf i roi’r cynllun ar waith. Roedd y Cadeirydd yn falch fod dau o ddarparwyr Meicro-ofal wedi bod mor llwyddiannus nes ffurfio eu hasiantaethau gofal cartref eu hunain.
Cynigiodd y Cynghorydd Gladys Healey yr argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Paul Cunningham.
PENDERFYNWYD:
Bod yr Aelodau yn parhau i gefnogi’r cynnydd a wnaed wrth gyflwyno’r cynllun peilot Meicro-ofal arloesol a chyfraniad cadarnhaol y cynllun i fodloni’r galw am ofal yn Sir y Fflint.