Mater - cyfarfodydd
Children’s Transformation Project
Cyfarfod: 20/01/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 62)
62 Prosiect Trawsnewid Gwasanaethau Plant PDF 95 KB
Pwrpas: Derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddodd yr Uwch Reolwr - Plant a Gweithlu ddiweddariad i’r Pwyllgor ar Gam 2 o’r Rhaglen Drawsnewid fel y gofynnwyd yn y Pwyllgorau Craffu diwethaf. Eglurodd y byddai’r rhaglen yn cael ei darparu yn 2022. Y materion allweddol oedd:-
· Gwerthusiad annibynnol o’r Tîm Therapi Aml-systemig presennol
· Agor Canolfan Asesu Preswyl Cofrestredig ar y cyd rhwng Sir y Fflint a Wrecsam “T? Nyth”
· Fflat mewn argyfwng ar y cyd rhwng Sir y Fflint a Wrecsam yn darparu llety brys cofrestredig a chymorth mewn argyfwng
· Ail Dîm Therapi Aml-systemig yn darparu asesiadau a therapi i adeiladu gwydnwch a chefnogi’r gwaith o aduno teuluoedd a ‘symud ymlaen’ o D? Nyth
· Cartref Plant cofrestredig yn darparu lleoliadau hirdymor i hyd at 4 o blant o Sir y Fflint mewn amgylchedd cartrefol a sefydlog.
Mewn perthynas â chwestiwn a godwyd gan y Cadeirydd, roedd yr Uwch Reolwr - Plant a Gweithlu yn rhagweld y byddant yn weithredol erbyn yr hydref 2022 unwaith y bydd cofrestriad AGC wedi’i gymeradwyo. Yna bydd adroddiad pellach ar gynnydd yn cael ei ddarparu.
Cynigiodd y Cynghorydd Gladys Healey yr argymhellion yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Jean Davies.
PENDERFYNWYD:
Bod yr Aelodau yn nodi’r cynnydd a’r cynlluniau cyflawni cysylltiedig ar gyfer y Gronfa Drawsnewid.
Roedd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) eisiau diolch i’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd am eu harweinyddiaeth ynghyd ag aelodau o’r Pwyllgor am eu cefnogaeth. Ymatebodd y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd drwy ddweud eu bod yn falch iawn o fod yn aelodau o’r Pwyllgor ac y byddant yn hoffi diolch i’r holl staff a’r cyfranogwyr a oedd wedi gwneud y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn un llwyddiannus.