Mater - cyfarfodydd
Treasury Management Strategy 2022/23
Cyfarfod: 15/02/2022 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 93)
93 Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2022/23 PDF 87 KB
Pwrpas: Cyflwyno i’r Aelodau Strategaeth Rheoli’r Trysorlys Drafft 2022/23.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Draft Treasury Management Strategy 2022/23, eitem 93 PDF 781 KB
- Appendix 2 - Draft Treasury Management Policy 2022 to 2025, eitem 93 PDF 206 KB
- Appendix 3 - Draft Treasury Management Practices and Schedules 2022 to 2025 - Part 1, eitem 93 PDF 159 KB
- Appendix 4 - Draft Treasury Management Practices and Schedules 2022 to 2025 - Part 2, eitem 93 PDF 471 KB
- Appendix 5 - Report to Cabinet 15th February, 2022, eitem 93 PDF 369 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2022/23
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol Strategaeth Ddrafft Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2022/23, a ddangosir yn Atodiad 1, ar y cyd â:
- Datganiad Polisi Rheoli'r Trysorlys Drafft 2022 i 2025, a ddangosir yn Atodiad 2; ac
- Arferion ac Amserlenni Rheoli'r Trysorlys Drafft 2022 i 2025, a ddangosir yn Atodiad 3 a 4.
Nid oedd prif gynnwys Strategaeth 2022/23 wedi newid yn sylweddol ers Strategaeth 2021/22. Cafodd materion a oedd yn haeddu sylw'r Aelodau eu hamlinellu yn adran 1.08 o adroddiad y Cabinet. Roedd terfynau gwariant awdurdodau lleol ac endidau eraill y llywodraeth ar gyfer banciau a chymdeithasau adeiladu wedi eu cynyddu i £3m. Ystyriwyd bod hynny'n angenrheidiol oherwydd y lefelau uwch o arian ychwanegol sydd gan y Cyngor yn sgil derbyn cyllid Covid-19 ychwanegol yn 2020/21 a 2021/22.
Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol nad oedd unrhyw newidiadau sylweddol wedi'u gwneud i'r Strategaeth, Polisi, Arferion ac Atodlenni ac nad oedd unrhyw faterion penodol wedi'u codi yn dilyn ymgynghori â'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a'r Cabinet.
Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan y Cynghorydd Paul Johnson ac fe'i heiliwyd gan y Cynghorydd Chris Dolphin.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2022/23 yn cael ei chymeradwyo;
(b) Bod Datganiad Polisi Rheoli'r Trysorlys 2022 i 2025 yn cael ei gymeradwyo; a
(c) Bod Arferion Rheoli ac Amserlenni'r Trysorlys 2022 i 2025 yn cael eu cymeradwyo.