Mater - cyfarfodydd
Revenue Budget Monitoring 2021/22 (Month 9)
Cyfarfod: 15/02/2022 - Cabinet (eitem 117)
117 Monitro Cyllideb Refeniw 2021/22 (Mis 9) PDF 228 KB
Pwrpas: Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2021/22 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 9 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Revenue Budget Monitoring 2021/22 (Month 9), eitem 117 PDF 102 KB
- Enc. 2 for Revenue Budget Monitoring 2021/22 (Month 9), eitem 117 PDF 143 KB
- Enc. 3 for Revenue Budget Monitoring 2021/22 (Month 9), eitem 117 PDF 23 KB
- Enc. 4 for Revenue Budget Monitoring 2021/22 (Month 9), eitem 117 PDF 215 KB
- Enc. 5 for Revenue Budget Monitoring 2021/22 (Month 9), eitem 117 PDF 95 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Monitro Cyllideb Refeniw 2021/22 (Mis 9)
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn darparu’r wybodaeth fanwl ddiweddaraf am sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw yn 2021/22 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer y flwyddyn ariannol, a chyflwynodd y sefyllfa, yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol, erbyn Mis 9.
Roedd yr adroddiad yn rhagamcanu sefyllfa’r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau a/neu wella’r elw ariannol ar gynllunio effeithlonrwydd a rheoli costau, sef:
Cronfa’r Cyngor
- Gwarged gweithredol o £1.537 miliwn (heb gynnwys effaith y dyfarniad cyflog a fyddai’n cael ei dalu o gronfeydd wrth gefn), a oedd yn newid ffafriol o £0.821 miliwn ers ffigur y gwarged a adroddwyd ym Mis 8, sef £0.716 miliwn.
- Rhagwelid y byddai balans y gronfa wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2022 yn £7.407 miliwn.
Y Cyfrif Refeniw Tai
· Rhagwelir y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £0.437m yn uwch na’r gyllideb.
· Rhagwelid mai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2022 fydd £4.035m.
Esboniodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod yr adroddiad hefyd yn rhoi manylion am sefyllfa pob portffolio; amrywiadau arwyddocaol y mis hwnnw; faint o’r arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd ar gyfer y flwyddyn a gafodd eu cyflawni; cyllid mewn argyfwng; cronfeydd wrth gefn heb eu clustnodi a chronfeydd wrth gefn wedi eu clustnodi.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad a’r effaith ariannol a amcangyfrifir ar gyllideb 2021/22; a
(b) Cymeradwyo’r ceisiadau i ddwyn arian ymlaen.