Mater - cyfarfodydd

Multiplying Impact - Flintshire Integrated Youth Provision Delivery Plan 2021-2024

Cyfarfod: 03/02/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 41)

41 Cynyddu Effaith – Cynllun Cyflawni Darpariaeth Ieuenctid Integredig Sir y Fflint 2021-2024 pdf icon PDF 127 KB

Cyflwyno cynllun cyflawni newydd ar gyfer Darpariaeth Ieuenctid Integredig 2021-2024.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyn ystyried yr adroddiad, dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) fod Mrs. Ann Roberts, Uwch Swyddog y Ddarpariaeth Ieuenctid Integredig, yn ymddeol o’i swydd ar ddechrau mis Mawrth. Cyfeiriodd at gyfraniad aruthrol Ann Roberts i’r Pwyllgor a’i hangerdd ac ymroddiad dros ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i bobl ifanc. Byddai cyfle i Aelodau gyflwyno eu sylwadau a fyddai’n cael eu casglu ynghyd a’u cyflwyno i Ann Roberts yn ystod ei chyflwyniad gadael.  Awgrymodd y Cadeirydd y dylai’r Pwyllgor anfon llythyr o werthfawrogiad at Ann Roberts yn diolch iddi am yr hyn roedd wedi’i gyflawni ar ran y gwasanaeth addysg dros y blynyddoedd ac yn dymuno’n dda iddi yn y dyfodol. Cefnogwyd yr awgrym hwn gan y Pwyllgor. 

 

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) Mick Holt (Uwch Weithiwr Ieuenctid a Chymuned) ac Ali Thomas (Gweithiwr Fforwm Ieuenctid), y ddau Uwch Weithiwr Ieuenctid, i’r Pwyllgor a diolchodd iddynt am eu cymorth. Amlinellodd y sefyllfa bresennol, ac esboniodd fod y Cynllun wedi cael ei ddatblygu ar ôl ymgynghori’n eang gyda phobl ifanc yn Sir y Fflint a oedd yn defnyddio’r gwasanaeth hwn, y Tîm Ieuenctid ac amryw o bartneriaid a oedd yn darparu’r gwasanaethau hyn i bobl ifanc yn y gr?p oedran 11-25.  Esboniwyd dyheadau’r bobl ifanc ynghyd â’r cymorth a ddarparwyd gan y Gwasanaeth Ieuenctid. Roedd y ddarpariaeth ddigidol yn fuddiol ond wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio roedd modd darparu mwy o wasanaethau wyneb yn wyneb. Roedd Comisiynydd Plant Cymru a Llywodraeth Cymru wedi cydnabod gwerth Gwasanaethau Ieuenctid ac mae hyn bellach ar flaen trefn arolygu newydd Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Addysg.  Roedd y Gwasanaeth Ieuenctid a Gweithwyr Ieuenctid yn rhan medrus a gwerthfawr iawn o’r Gwasanaethau Addysg. 

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y dibenion allweddol yn adran 1.06 o’r adroddiad a oedd yn cysylltu â’r cwricwlwm cenedlaethol ac yn darparu gwybodaeth am y prif enghreifftiau o waith partneriaeth.  Roedd pobl ifanc yn gwerthfawrogi’r gwasanaethau roeddynt yn eu derbyn drwy’r Ddarpariaeth Ieuenctid Integredig a’r ffaith y byddai’r cynllun hwn yn cynnig llwybr ar gyfer y tair blynedd nesaf o ran y ffordd roedd gwasanaethau yn cael eu gwreiddio a’u hehangu i’w cefnogi. Cyfeiriodd at Strategaeth y Gymraeg mewn Addysg a drafodwyd yn y cyfarfod diwethaf a dywedodd fod y pwyslais ar ddarparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn gwella cyfleoedd pobl ifanc yn y dyfodol.  

 

            Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Dave Mackie ar y Pecyn Adnoddau, dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) fod yr Asesiad Effaith Integredig wedi’i gwblhau fel rhan o’r broses statudol ar gyfer adrodd i’r Pwyllgor. Roedd hwn yn dempled safonol yr oedd yn rhaid ei ddefnyddio a chytunwyd bod rhai elfennau yn ailadroddus. Cadarnhaodd y Gweithiwr Fforwm Ieuenctid fod y dull adrodd cynyddu effaith yn cael ei ddefnyddio gydag elfennau wedi’u cynnwys yn yr adroddiad a chadarnhaodd fod rhai o’r gwasanaethau hyn yn rhai wyneb yn wyneb, ac eraill yn cael eu darparu ar-lein. Er ei fod yn ymddangos bod hyn yn ailadroddus, roedd ystyriaeth yn cael  ...  view the full Cofnodion text for item 41