Mater - cyfarfodydd

Learner Outcome Assessment Processes for 2022

Cyfarfod: 03/02/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 40)

40 Prosesau Asesiad Deilliannau Dysgwyr ar gyfer 2022 pdf icon PDF 91 KB

Darparu trosolwg i’r Aelodau o’r trefniadau arholiadau ac asesiadau ar gyfer Haf 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r adroddiad, esboniodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) fod gwahanol ddulliau wedi cael eu defnyddio yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ar gyfer dysgwyr cyfnod allweddol 4 a 5.  Roedd yr adroddiad hwn yn rhoi diweddariad ar gyfer eleni yn dilyn trefniadau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru (LlC). 

 

Rhoddodd yr Uwch Reolwr Gwella Ysgolion ddiweddariad ar y paratoadau ar gyfer arholiadau TGAU a Safon Uwch eleni. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, oherwydd y pandemig, roedd yr arholiadau hyn wedi cael eu canslo ac yn eu lle cafwyd Graddau wedi’u hasesu gan ganolfannau yn 2020 a Graddau wedi’u pennu gan ganolfannau yn 2021.  Cyflwynodd yr adroddiad y sefyllfa bresennol, y cynlluniau wrth gefn a’r asesiadau a fyddai’n cael eu rhoi ar waith petai’r amgylchiadau yn newid. Roedd y rhain wedi cael eu rhannu gyda’r ysgolion, rhieni a dysgwyr a oedd yn sefyll arholiadau TGAU a Safon Uwch yr haf hwn. Cadarnhaodd fod arholiadau’r gwanwyn wedi cael eu cynnal ym mis Ionawr a chanmolodd yr ysgolion am eu gwaith caled a’r cymorth roeddynt yn ei roi i ddysgwyr.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Martin White at yr holl darfu a’r newidiadau roedd myfyrwyr wedi’u dioddef yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf a’r ffaith bod myfyrwyr eleni yn wynebu llawer o heriau wrth baratoi ar gyfer arholiadau. Cytunodd y Cadeirydd a dywedodd fod y pandemig wedi cael effaith ar addysg ein pobl ifanc ond canmolodd y ffordd roeddynt wedi ymdopi, a’r cymorth a ddarparwyd gan ysgolion a’r rhieni.

 

Cytunodd yr Uwch Reolwr Gwella Ysgolion a dywedodd fod pawb yn ymwybodol o’r heriau a oedd yn wynebu’r bobl ifanc hyn a thalodd deyrnged i’w hysbryd cydnerth. Er gwaethaf yr holl newidiadau, roedd rhai ffug arholiadau wedi cael eu cynnal. Rhoddodd wybodaeth am y gwaith a wnaed gan Gymwysterau Cymru a CBAC o ran y gwaith papur a’r cymorth a roddwyd er mwyn galluogi’r bobl ifanc hyn i lwyddo.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am sicrwydd y byddai’r papurau yn caniatáu elfen o hyblygrwydd gan fod rhai dysgwyr o bosibl wedi methu testunau gan eu bod yn hunan-ynysu neu oherwydd bod yr ysgol ar gau. Mewn ymateb, cadarnhaodd yr Uwch Reolwr Gwella Ysgolion fod Cymwysterau Cymru a CBAC wedi rhoi gwybodaeth i ysgolion ymlaen llaw o ran y gofynion ar gyfer yr arholiadau addasedig. Roedd yr heriau yn wahanol ar draws Cymru a byddai’r cwricwlwm newydd yn darparu cynnwys addysg a sgiliau i ddysgwyr ar lefel leol. Byddai’r wybodaeth hon yn rhan o drafodaethau am y math o gymwysterau ac asesiadau fyddai’n wynebu dysgwyr yn y dyfodol a sut byddai hyn yn rhan o’r cwricwlwm newydd o fis Medi nesaf ymlaen. Roedd llawer o ganlyniadau da yn dod o’r sefyllfa hon.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad a amlinellwyd yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Janet Axworthy, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Tudor Jones. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r trefniadau sydd yn eu lle ar hyn o bryd ar gyfer asesiadau yn 2022 ac yn cydnabod gwaith caled yr ysgolion uwchradd yn Sir y Fflint wrth gefnogi  ...  view the full Cofnodion text for item 40