Mater - cyfarfodydd

Budget 2022/23 and the Welsh Local Government Provisional Settlement

Cyfarfod: 18/01/2022 - Cabinet (eitem 94)

94 Cyllideb 2022/23 a Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru pdf icon PDF 130 KB

Pwrpas:        I roi’r wybodaeth ddiweddaraf ac amcangyfrif o’r gyllideb ar gyfer 2022/23 a goblygiadau Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru a gafwyd ar 21 Rhagfyr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad ac esboniodd bod y Cabinet wedi cael diweddariad ar 14 Rhagfyr yn dweud bod angen £20.696 miliwn yn ychwanegol yn y gyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23.  Cafwyd y diweddariad hwnnw cyn derbyn Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru ar 21 Rhagfyr.

 

Rhoddodd adroddiad y Cabinet ddiweddariad am brif benawdau ac effeithiau ariannol y Setliad cyn cam olaf y broses o osod cyllideb ffurfiol ym mis Chwefror.

 

Byddai angen i’r gofyniad ychwanegol gynyddu’n sylweddol i gymryd i ystyriaeth yr angen i ddiwallu effeithiau’r holl faterion a nodwyd yn yr adroddiad, gan gynnwys Dyfarniadau Cyflog / Cyflog Byw Cenedlaethol a pharhad mewn costau ychwanegol a cholli incwm o ganlyniad i’r pandemig ar ôl i Gronfa Caledi Llywodraeth Cymru ddod i ben ar ddiwedd mis Mawrth 2022.

 

Byddai angen i gyllideb gyfreithiol a chytbwys gael ei hargymell i’r Cyngor gan y Cabinet ar gyfer 2022/23 unwaith y byddai’r holl waith ar y materion a amlinellwyd yn yr adroddiad wedi’u cwblhau.

 

Roedd y dyraniad Cyllid Allanol Cyfun (AEF) yn darparu swm o £1,476 y pen o’i gymharu â £1,611 y pen ar gyfartaledd yng Nghymru, sy’n gosod y Sir yn safle 20 allan o 22 o gynghorau Cymru.

 

Am y tro cyntaf ers sawl blwyddyn, roedd setliad dros dro 2022/23 yn darparu dyraniadau dangosol ar gyfer y ddwy flynedd nesaf.   Er bod hynny’n cael ei groesawu, roedd yr ymgodiadau dangosol yn yr AEF o 3.5% a 2.4% ar gyfer 2023/24 a 2024/25 yn y drefn honno, yn llawer is na 2022/23 a byddai’n her sylweddol ceisio goresgyn effeithiau anochel yn gysylltiedig â chwyddiant a chynnydd yn y galw am Wasanaethau’r Cyngor.  Gan hynny byddai’n hanfodol bod penderfyniadau a wneir fel rhan o gyllideb 2022/23 yn cael eu hystyried yng nghyd-destun y sefyllfa tymor canolig, er mwyn datblygu gwytnwch i ateb yr heriau sy’n gysylltiedig â phwysau anochel costau a fyddai’n codi yn y blynyddoedd dilynol.

 

Er mai Sir y Fflint oedd y chweched Cyngor mwyaf yng Nghymru yn ôl nifer y boblogaeth, roedd yn cyrraedd safle 20 allan o 22 yn seiliedig ar gyllid y pen.  Pe bai Sir y Fflint yn derbyn yr un swm o gyllid y pen â’r cyfartaledd yng ngogledd Cymru, byddai’n derbyn £21 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol.

 

Barn Aelodau’r Cabinet oedd, os yw pethau fel Dyfarniadau Cyflog yn cael eu cyhoeddi’n genedlaethol, yna dylent gael eu hariannu yn genedlaethol.

 

Esboniodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol eu bod yn gweithio drwy effeithiau’r dyfarniadau cyflog, yn ogystal â’r cyllid grant unigol.  Byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ym mis Chwefror cyn cyfarfod y Cyngor Sir yn y prynhawn.

 

            Holodd y Cynghorydd Roberts a fyddai modd i lythyr gael ei anfon at Aelodau’r Senedd o ogledd Cymru i ofyn iddynt lobïo dros adfer y Grant Cynnal a Chadw Priffyrdd o £950,000, ar ôl cael cadarnhad ei fod wedi dod i ben.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi goblygiadau ariannol Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru a’r gwaith sydd ar ôl i’w gwblhau cyn cytuno ar gyfres o  ...  view the full Cofnodion text for item 94