Mater - cyfarfodydd

Levelling Up Fund Round Two

Cyfarfod: 11/01/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 55)

55 Ail Gylch Ymgeisio Cronfa Codi'r Gwastad pdf icon PDF 130 KB

Derbyn barn a chefnogaeth y Pwyllgor i’r cynigion i gyflwyno ceisiadau i Ail Gylch Ymgeisio Cronfa Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yr adroddiad sy’n amlygu ail gylch cyllido Cronfa Codi’r Gwastad ar gyfer prosiectau cyfalaf a’r gwaith sydd ar y gweill cyn cyflwyno’r ceisiadau yn y gwanwyn. Bydd yr adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yr wythnos nesaf a bydd sylwadau’r Pwyllgor hwn yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

            Darparodd y Rheolwr Menter ac Adfywio gefndir i’r Rhaglen Gyfalaf a gyhoeddwyd yn 2021 ac sy’n dod i ben yn 2024 ac yn rhan o raglen Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU. Roedd y Cyngor yn gallu gwneud tri chais ar gyfer prosiectau cludiant strategol a rhaglenni adfywio yn etholaethau Alun a Glannau Dyfrdwy a Delyn. Mae pob Cyngor yn gallu cyflwyno ceisiadau, gyda’r cynghorau llwyddiannus yn gorfod darparu o leiaf 10% o arian cyfatebol. Soniodd y Rheolwr Menter ac Adfywio am y cais aflwyddiannus y llynedd, y blaenoriaethau a’r pryderon ynghylch yr amserlen i gwblhau ceisiadau, sydd ar hyn o bryd yn aneglur. Darparodd wybodaeth am strategaethau’r cynnig, sy’n canolbwyntio ar gymunedau arfordirol Sir y Fflint ac yn cynnwys etifeddiaeth yr hen ddiwydiannau trwm, gwella safleoedd cyflogaeth, lleihau troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a diogelu safleoedd treftadaeth pwysig. Y gobaith yw gweld y cynigion hyn yn helpu i gadw cyflogwyr, defnyddio asedau treftadaeth unwaith eto ac annog pobl leol ac ymwelwyr i ymweld â’r ardal arfordirol.

 

Yna fe ddarparodd wybodaeth am y 4 diffyg yn y farchnad sy’n derbyn sylw yn y cynigion:-

 

·         Diffyg buddsoddi mewn adeiladau gyda llawer yn dod i ddiwedd eu hoes

·         Treftadaeth - mae llawer o safleoedd yn dirywio

·         Dociau Cei Connah

·         Yr arfordir - angen sicrhau ei fod yn cael ei werthfawrogi a datrys problemau o ran cysylltiad

 

            Cadarnhaodd y Rheolwr Menter ac Adfywio fod y cynigion yn cael eu datblygu ar hyn o bryd a bod angen gwneud mwy o waith arnynt. Darparwyd gwybodaeth am y cynigion ar gyfer Delyn, Parc Castell y Fflint a Pharc Busnes Maes Glas, sy’n defnyddio hen adeiladau’r diwydiant trwm. Mae’r rhain yn eiddo i’r Cyngor a gall y cynigion ddiogelu swyddi ar y safleoedd hyn.

 

            Gan symud i Alun a Glannau Dyfrdwy, amlinellodd y Rheolwr Menter ac Adfywio’r cynigion ar gyfer dociau Cei Connah, y parc busnes ac i fynd i’r afael â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Eglurwyd y cynigion ar gyfer y T?r Cloc yn Shotton a moderneiddio’r unedau busnes yn defnyddio cynllun grant eiddo busnes. Byddai mynediad gwell i’r ardal gyfan yn cael ei ystyried i annog ymwelwyr. Hefyd, eglurwyd yr amserlen ar gyfer y cynigion a sut y byddant yn cael eu hasesu a’u rhoi ar restr fer gan sicrhau eu bod yn gadarn ac yn bosibl. Bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet yr wythnos nesaf gyda’r Prif Swyddog a’r Aelod Cabinet yn symud hyn yn ei flaen gydag awdurdod dirprwyedig i ddiwygio'r cais i fodloni gofynion Llywodraeth y DU.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Paul Shotton fod y Gronfa Codi’r Gwastad yn gyfle i wella treftadaeth dociau Cei Connah ac ailddefnyddio’r ardal. Byddai argaeledd  ...  view the full Cofnodion text for item 55