Mater - cyfarfodydd

Flintshire Economy Update

Cyfarfod: 18/01/2022 - Cabinet (eitem 101)

101 Newyddion diweddaraf ar Economi Sir y Fflint pdf icon PDF 148 KB

Pwrpas:        Darparu aelodau gyda’r newyddion diweddaraf ar economi Sir y Fflint, ac ar raglenni gwaith i helpu gydag adferiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Butler yr adroddiad a oedd yn rhoi crynodeb o amodau economaidd presennol y rhanbarth a’r Sir, gan ddefnyddio gwybodaeth o nifer o ffynonellau.  Roedd yr adroddiad yn rhoi manylion y strwythurau llywodraethu a oedd mewn lle i ymateb i adferiad economaidd a’r rhaglenni gwaith a oedd ar y gweill ar hyn o bryd.

 

            Nid oedd effeithiau pandemig Covid-19 ac ymadawiad y DU o’r Undeb Ewropeaidd yn amlwg eto, ac roeddent yn dal i esblygu.

 

            Rhoddodd yr adroddiad wybodaeth fanwl am Brexit; Covid-19; diweddariad economaidd; ystadau masnachol; ardrethi busnes; canol trefi ac ymatebion rhanbarthol a lleol.

 

            Esboniodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) bod hwn yn adroddiad yn seiliedig ar dystiolaeth yr oedd  y Pwyllgor Adfer wedi gofyn amdano ac wedi’i groesawu.  Ychwanegodd nad oedd cymaint o swyddi wedi’u dileu ar raddfa fawr ag y disgwylid yn dilyn Covid.  Roedd lefel uchel o swyddi gwag ym meysydd nyrsio, gofal personol, gweithwyr gofal, cynorthwywyr cegin ac arlwyo, glanhawyr a gyrwyr faniau a oedd yn anodd eu llenwi.

 

            Roedd y Prif Weithredwr yn croesawu’r adroddiad a oedd yn darparu asesiad cryf o’r economi.  Diolchodd i’r swyddogion am yr adroddiad.

 

            Croesawodd y Cynghorwyr Bithell a Johnson yr adroddiad gan ddweud fod Sir y Fflint wedi cael ei chrybwyll ym mhapur y Sunday Times.  Dywedodd yr adroddiad fod Sir y Fflint yn mynd yn groes i’r duedd o ran adferiad a bod y ffigyrau wedi gwella ar y Mynegai Cystadleurwydd. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, dywedodd y Prif Weithredwr fod trafodaeth wedi’i chynnal yn y Pwyllgor Adfer yngl?n â sgiliau a chreu cyswllt gyda Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (BUEGC).  Gofynnodd y Pwyllgor i gynrychiolydd o BUEGC fynychu cyfarfod yn y dyfodol i esbonio sut yr oeddent yn creu cyswllt â Sir y Fflint i yrru’r economi leol ymlaen.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod cynnwys a chasgliadau’r adroddiad yn cael eu nodi a’u cefnogi.