Mater - cyfarfodydd

Grass Cutting Performance Review

Cyfarfod: 11/01/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 57)

57 Adolygiad Perfformiad Torri Gwair pdf icon PDF 92 KB

Cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf ar berfformiad torri gwair ar draws y sir yn ystod 2021 ac ail-gymeradwyo’r polisi torri gwair presennol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth). Cyflwynodd Neil Cox, y Rheolwr Gwasanaeth Stryd newydd i’r Pwyllgor.

 

            Mae’n arfer da adolygu ein trefniadau ac mae’r pandemig wedi cael effaith sylweddol ar ddarpariaeth y gwasanaeth hwn. Mae’r polisi wedi’i adolygu’n rheolaidd ers 2012 gyda’r fersiwn ddiweddaraf wedi’i chymeradwyo fis Ionawr 2020 Mae’r adroddiad yn darparu trosolwg o’r perfformiad yn ystod tymor 2021. Cyfeiriwyd at adrannau 1.02 ac 1.07 sy’n darparu gwybodaeth am y gweithgareddau a’r gwaith torri blynyddol. Yna fe gyfeiriodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) at adrannau 1.10 ac 1.11 ac Atodiad 2 sy’n darparu crynodeb ar gyfer pob tîm a’r gwaith torri yn ystod y tymor. Amlygwyd effeithiau’r tywydd gwlyb hefyd. Darparwyd eglurhad hefyd o’r newidiadau i’r broses dendro ar gyfer y contract chwistrellu chwyn er mwyn ei wneud yn fwy cadarn. Gorffennodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) drwy ddweud nad oes unrhyw argymhelliad i newid y polisi.

 

            Gofynnodd y Cadeirydd a yw’r rhaglen plannu blodau wedi helpu efo torri gwair. Mewn ymateb, dywedodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) fod prosesau i’w dilyn fel casglu ac ailblannu ar ddechrau a diwedd y tymor, sydd dal angen adnoddau. Cadarnhaodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd fod mwy na 50 o safleoedd bach ar draws y sir sydd angen ymateb gwahanol, gyda pheiriannau a dulliau rheoli pwrpasol. Mae’r Cyngor yn cefnogi ac yn hyrwyddo creu ardaloedd blodau gwyllt, gyda rhai ardaloedd wedyn ddim angen eu torri.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd George Hardcastle at effaith newid hinsawdd gyda’r gwair yn tyfu’n gynharach yn y tymor a gofynnodd a oes angen torri gwair yn amlach. Mewn ymateb soniodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) am gynlluniau i ddechrau gwaith torri gwair y gaeaf yn gynt a’i ymestyn, ond mae’r tymor yn dechrau’n gynt bob blwyddyn. Eglurodd fod yr un adnoddau’n cael eu defnyddio i raeanu’r ffyrdd a bod y gwaith torri gwair a graeanu’r ffyrdd yn gorgyffwrdd ym mis Mawrth. Mae’n anodd rheoli hyn ond mae gwaith torri ychwanegol yn cael eu cynllunio ar gyfer diwedd mis Ionawr/dechrau mis Chwefror er mwyn bod ar ben hyn cyn i’r tymor ddechrau. Ym mis Ionawr 2020 adroddodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd fod gwaith torri llwyddiannus wedi’i wneud ond bod y fantais hon wedi’i cholli wrth i’r wlad fynd i mewn i gyfnod clo yn sgil y pandemig fis Mawrth 2020. Gyda’r tymor torri gwair yn cael ei estyn i’r gaeaf, gall y tir fod yn wlyb a mwdlyd iawn, a’r peiriannau wedyn yn troi ac yn difrodi’r tir sydd wedyn yn cymryd mwy o amser i adfer.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Owen Thomas y cwestiynau canlynol:-

 

·           Cyfeiriodd at y frawddeg olaf ar dudalen 73 a oedd yn dweud mai pwrpas torri gwair yw cynnal diogelwch a gwelededd ar y briffordd. Dywedodd fod y gwair ar rai lonydd gwledig a ddefnyddir yn helaeth yn hir iawn a bod 50% o’r gwelededd yn cael ei golli. Mae angen torri’r gwair yn y llefydd yma fwy nag unwaith y flwyddyn. Mae’r adroddiad yn dweud  ...  view the full Cofnodion text for item 57