Mater - cyfarfodydd
Council Plan 2022/23
Cyfarfod: 20/01/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 57)
57 Cynllun y Cyngor 2022-23 PDF 114 KB
Pwrpas: Ymgynghori ar Ran 1 o Gynllun y Cyngor 2022/23.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1: Draft Council Plan (Part 1) 2022-23, eitem 57 PDF 165 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Cynllun y Cyngor 2022-23
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad a nodi bod y Cynllun Drafft 2022/23 wedi'i adolygu a'i adnewyddu o ran ei gynnwys yn dilyn yr ymateb i'r pandemig a'r Strategaeth Adfer. Dywedodd bod y themâu a’r blaenoriaethau yr un fath ag ar gyfer 2021/22, ond bod rhai datblygiadau gydag is-flaenoriaethau.
Dywedodd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol bod yr adroddiad wedi cael ei gytuno arno gan y Cabinet ac, yn dilyn ymgynghoriad gan y Pwyllgor heddiw a’r Pwyllgor Addysg ym mis Chwefror, byddai unrhyw newidiadau i’r adroddiad yn cael eu gwneud yn dilyn adborth. Wedyn rhoddodd wybodaeth fwy manwl o’r adroddiad.
Yn dilyn pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey o ran tai gwag ac effaith digartrefedd ar iechyd a lles pobl, cytunwyd y byddai’r Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Gymuned, Tai ac Asedau yn anfon e-bost at y swyddogion perthnasol yn gofyn pa gymorth sydd ar gael i deuluoedd cyn iddynt gael eu rhoi mewn sefydliadau Gwely a Brecwast. Ychwanegodd os nad yw’r adroddiad sy’n mynd i gyfarfod y Gymuned, Tai ac Asedau ym mis Chwefror yn mynd i’r afael â’r materion a godwyd byddai’n gofyn am ymateb pellach.
Gofynnodd y Cynghorydd Ellis pam nad oedd Gwasanaethau Iechyd Meddwl wedi’u cynnwys yn y cynllun yn dilyn nifer o geisiadau a gafodd gan breswylwyr yngl?n â mynediad at y Gwasanaeth. Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) bod y cynllun yn parhau ar gyfer y flwyddyn wrth symud ymlaen ac nad oedd yn cynnwys gwasanaethau a oedd yn rhai “busnes fel arfer” lle’r oedd Iechyd Meddwl yn dod o danynt. Dywedodd y byddai unrhyw sylwadau am flaenoriaethau sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl a gofal cymdeithasol angen cael eu bwydo i mewn i’r cynllun. Ychwanegodd yr Uwch Reolwr - Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion mai un o’r anawsterau oedd bod y Cyngor wedi’i fesur yn erbyn ei berfformiad o fewn y cynllun ond roedd iechyd meddwl yn wasanaeth ar y cyd gydag iechyd yr oeddent yn gweithio gydag yn ogystal â sefydliadau gwirfoddol lle’r oedd nifer ohonynt yn cael eu hariannu ganddynt. Dywedodd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol y byddai’n ymgorffori Gwasanaethau Iechyd Meddwl i’r cynllun gan adnabod ei fod yn wasanaeth ar y cyd a ddarperir gydag iechyd.
Cynigiwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Dave Mackie a’u heilio gan y Cynghorydd Paul Cunningham.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn adolygu ac yn rhoi adborth ar gynnwys y themâu wedi’u hadnewyddu ar gyfer Cynllun y Cyngor 2022-23 cyn ei rannu gyda’r Cabinet ym mis Mehefin 2022.