Mater - cyfarfodydd

Council Plan 2022/23

Cyfarfod: 13/01/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 72)

72 Cynllun y Cyngor 2022-23 pdf icon PDF 115 KB

Pwrpas:        Ymgynghori ar Ran 1 o Gynllun y Cyngor 2022/23.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad i adolygu Cynllun Drafft y Cyngor ar gyfer 2022/23 yn cynnwys yr ‘uwch strwythur’ o chwe thema sy’n cyd-fynd â’r Amcanion Lles.   Roedd y blaenoriaethau a’r camau gweithredu ategol yr un fath â 2021/22, gydag ychydig o ddatblygiadau i’r is-flaenoriaethau ar gyfer Tlodi, Cymdeithas Werdd a’r Amgylchedd, Economi ac Addysg a Sgiliau.   Bydd y cynllun yn cael ei adolygu gan yr holl Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu cyn ei rannu gyda’r Cabinet, cyn cael ei gymeradwyo gan y Cyngor ym mis Gorffennaf.

 

Dywedodd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol  bod yr amserlen yn rhoi cyfleoedd i gael cyfraniadau gan Aelodau sydd newydd gael eu hethol.

 

Er ei fod yn cydnabod fformat gwell y Cynllun, dywedodd y Cynghorydd Richard Jones bod llawer o’r cerrig milltir tuag at ddiwedd y flwyddyn ac awgrymodd ddull ar gyfer mesur cynnydd i sicrhau eu bod yn dal yn berthnasol.   Rhoddodd enghreifftiau o nifer o fentrau oedd ar goll ers y llynedd a dywedodd y dylid fod wedi cynnwys esboniadau.

 

Mewn ymateb, eglurodd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol y dylai llawer o’r camau gweithredu dros y tymor hirach gael eu cyflawni erbyn mis Mawrth 2023 a byddai’r cynnydd yn cael ei adlewyrchu mewn adroddiadau perfformiad chwarterol.   Dywedodd nad oedd rhai o’r materion a gynhwyswyd yn y Cynllun ar gyfer y llynedd wedi’u tynnu gan eu bod bellach yn rhan o fusnes normal neu wedi’u cwblhau.   Cafodd eglurhad ar symudiadau o’r fath ei adrodd yn y cam monitro canol blwyddyn ym mis Rhagfyr a bydd hefyd yn cael ei egluro yn yr adroddiad diwedd blwyddyn i gael ei gymeradwyo ym mis Gorffennaf.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Ian Roberts at y thema Tlodi a rhoddodd eglurhad ar newidiadau cenedlaethol arfaethedig i brydau ysgol am ddim.   Siaradodd o blaid y Cynllun ar gyfer 2022/23 a ellir ei addasu i fodloni blaenoriaethau’r weinyddiaeth newydd yn dilyn yr Etholiadau.

 

Wrth groesawu’r Cynllun, canmolodd y Cynghorydd Paul Shotton yr amrywiaeth o gyfleoedd ar draws y Sir.

 

Yn dilyn sylwadau gan y Cadeirydd, rhoddodd y Prif Weithredwr fwy o fanylion am y strategaeth i drosi fflyd cludiant y Cyngor i rai trydan a thanwyddau eraill fel hydrogen, tra bod y Cynghorydd Ian Roberts yn siarad am ddatblygu rhwydwaith gwefru ceir trydan y Cyngor.

 

Croesawodd y Cynghorydd Richard Lloyd yr ystod o gamau gweithredu dan y flaenoriaeth Tai Fforddiadwy a Hygyrch.   Mewn ymateb i ymholiad, rhoddodd y Prif Weithredwr wybodaeth am ymgysylltu â landlordiaid i helpu i ddod ag eiddo yn ôl i ddefnydd a byddai’n cadarnhau gyda’r Tîm Gwella Cartrefi bod y cynllun yn cael ei hyrwyddo’n weithredol.

 

Yn dilyn cyngor gan y Prif Swyddog (Llywodraethu), cytunodd y Cynghorydd Shotton - a oedd wedi symud yr argymhelliad - ar newid gan y Cynghorydd Richard Jones i roi’r gair ‘Drafft’ cyn Cynllun y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod yr adborth yn cael ei nodi ar y cynnwys wedi’i adnewyddu yn ymwneud â’r themâu ar gyfer Cynllun Drafft y Cyngor 2022-23 cyn ei rannu gyda’r Cabinet ym mis Mehefin 2022.