Mater - cyfarfodydd

Council Plan 2022/23

Cyfarfod: 11/01/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 54)

54 Cynllun y Cyngor 2022-23 pdf icon PDF 115 KB

Ymgynghori ar Ran 1 o Gynllun y Cyngor 2022/23

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol fersiwn ddrafft o Gynllun y Cyngor ar gyfer 2022-23 sy’n amlygu blaenoriaethau allweddol y Cyngor ar gyfer y flwyddyn. Mae’r themâu a’r blaenoriaethau’r un fath ond mae adolygiad o’r holl gamau gweithredu a thasgau wedi’i gynnal yn dilyn ymateb y Cyngor i’r pandemig a’r cyfnod adfer. Mae’r Cabinet eisoes wedi cytuno ar y Cynllun, sydd bellach yn cael ei gylchredeg i bob pwyllgor trosolwg a chraffu er mwyn iddynt ymgynghori yn ei gylch erbyn dechrau mis Chwefror. Yn dilyn yr etholiadau ym mis Mai bydd cyfle i aelodau newydd o’r Cyngor weld a chyfrannu at y cynllun ym mis Mehefin. Yna bydd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol yn casglu’r holl adborth at ei gilydd cyn cyflwyno’r cynllun terfynol i’r Cabinet a’r Cyngor ym mis Gorffennaf.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Owen Thomas a Joe Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adborth ar gynnwys diweddaraf themâu Cynllun y Cyngor ar gyfer 2022-23 cyn rhannu’r ddogfen gyda’r Cabinet ym mis Mehefin 2022.