Mater - cyfarfodydd

Developing Flintshire’s Housing Support Programme Strategy 2022-26

Cyfarfod: 09/02/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau (eitem 44)

44 Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai (RCT) 2022/2026 pdf icon PDF 162 KB

Pwrpas:        Ymgynghori ag Aelodau ar y dull sy’n cael ei weithredu i sicrhau fod y Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai Sir y Fflint yn cael ei gyflenwi a’i weithredu cyn y dyddiad gweithredol o 1 Ebrill 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr Tai ac Atal adroddiad i roi trosolwg o ofynion y Strategaeth Cymorth Tai (HSP) a'r dull a ddefnyddiwyd yn Sir y Fflint i ddatblygu a mabwysiadu'r Strategaeth HSP erbyn diwedd mis Mawrth 2022.  Roedd y Strategaeth HSP wedi'i hatodi i'r adroddiad, ynghyd â manylion ar gyfer cyflawni a monitro a chefnogi'r Cynllun Gweithredu ar gyfer y cyfnod 2022-2026.

 

Tynnodd yr Uwch Reolwr Tai ac Atal sylw at y meysydd canlynol, fel y nodir yn yr adroddiad:

 

  • Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai
  • Grant Cynnal Tai
  • Gwasanaethau Grant Cynnal Tai
  • Datblygu Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai
  • Gweledigaeth, Egwyddorion a Blaenoriaethau Strategaeth HSP
  • Cynllun Gweithredu Lleol Strategaeth HSP
  • Gweithio Rhanbarthol

 

Er bod pob Awdurdod Lleol yn mabwysiadu ei Strategaeth HSP eu hunain ar gyfer 2022-2026, roedd ymrwymiad clir o hyd i gydweithio ar draws y rhanbarth.  Roedd gweithio mewn partneriaeth wrth ddatblygu'r Strategaethau HSP wedi bod yn broses gadarnhaol ac roedd Gogledd Cymru yn parhau i gael ei barchu am ei weithgareddau cydgysylltiedig a'i gydweithio gan Lywodraeth Cymru (LlC) a rhanbarthau eraill.    

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Uwch Reolwr Tai ac Atal am yr adroddiad manwl a gofynnodd am y wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth ychwanegol ar gyfer digartrefedd yng Nghei Connah.  Rhoddodd yr Uwch Reolwr Tai ac Atal ddiweddariad a dywedodd fod gwaith adnewyddu yn parhau i sicrhau 6 uned ychwanegol ar gyfer llety dros dro yng Nghei Connah.  Adroddodd hefyd ar safleoedd a sicrhawyd yn y Fflint a Threffynnon ar gyfer llety dros dro ychwanegol a fyddai'n dod yn ased Cyfrif Refeniw Tai yn y dyfodol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Helen Brown a oedd safle arall i'r Hyb Digartrefedd presennol yn Queensferry wedi'i nodi.  Gofynnodd a oedd y gwasanaeth yn bwriadu darparu cyfleoedd i brentisiaid a gofynnodd pa gymorth oedd yn cael ei ddarparu ar gyfer iechyd meddwl gan fod cysylltiad agos rhwng hyn a digartrefedd ac amlinellodd y pwysau sy'n cael ei roi ar Wasanaethau Gofal Cymdeithasol ar hyn o bryd.  Eglurodd yr Uwch Reolwr Tai ac Atal fod safle wedi'i nodi ac unwaith y byddai mewn sefyllfa i wneud hynny, byddai'n rhannu'r wybodaeth hon â'r Aelodau.  O ran prentisiaethau, dywedodd eu bod wedi gofyn am brentisiaethau o fewn eu gwasanaeth a bod trafodaethau wedi dechrau ar sut y gellid gwella hyn ledled Sir y Fflint, gan gynnwys gweithio mewn partneriaeth â rhai o'r gwasanaethau comisiynu, yn ogystal ag ariannu cymorth wedi'i dargedu drwy'r rhaglen cymunedau ar gyfer gwaith.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod iechyd meddwl yn fater o bwys i holl drigolion Sir y Fflint a bod gwasanaethau'n hybu iechyd meddwl cadarnhaol.  Dywedodd fod y ffordd yr adlewyrchwyd materion iechyd meddwl yng Nghynllun Cyngor y Cyngor wrth symud ymlaen wedi'i godi mewn cyfarfod diweddar o Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd. Un cam yn deillio o’r cyfarfod hwnnw oedd bod swyddogion Gwasanaethau Cymdeithasol yn cyfarfod â'r Cynghorydd Perfformiad Strategol i sicrhau bod materion iechyd meddwl yr oedd gan y Cyngor reolaeth drostynt wedi'u cynnwys yng Nghynllun y Cyngor.  Awgrymodd y dylid estyn gwahoddiad  ...  view the full Cofnodion text for item 44