Mater - cyfarfodydd
Housing Revenue Account (HRA)
Cyfarfod: 12/01/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau (eitem 38)
38 Y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) Cynllun busnes ariannol 30 mlynedd PDF 118 KB
Pwrpas: Ystyried Cyllideb Cyfrif Refeniw Tai arfaethedig ar gyfer 2022/23 a’r Cynllun Busnes CRT.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Housing Revenue Account (HRA), eitem 38 PDF 397 KB
- Enc. 2 for Housing Revenue Account (HRA), eitem 38 PDF 39 KB
- Enc. 3 for Housing Revenue Account (HRA), eitem 38 PDF 226 KB
- Enc. 4 for Housing Revenue Account (HRA), eitem 38 PDF 115 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) Cynllun busnes ariannol 30 mlynedd
Cofnodion:
Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad i ystyried y gyllideb Cyfrif Refeniw Tai a gynigiwyd ar gyfer 2022/23 a drafft o Gynllun Busnes Ariannol 30 mlynedd y Cyfrif Refeniw Tai. Rhoddodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Strategol (Masnachol a Thai) gyflwyniad yn cynnwys y canlynol:
- Benthyca
- Rhenti
- Rhenti Garejis
- Taliadau Gwasanaeth
- Rhaglen Gyfalaf
- Adfywio
- SHARP
- Arian Cyfalaf
- Cronfeydd Wrth Gefn
- Goblygiadau o ran Adnoddau (gan gynnwys ailstrwythuro er mwyn diwallu pwysau gwaith)
- Asesiad o Effaith a Rheoli Risg
- Ffyrdd o Weithio (Datblygu Cynaliadwy)
- Effaith Nodau Lles
Roedd y cynnydd o ran rhent a gynigiwyd yn y cynllun busnes yn gweithredu ymgodiad cyffredinol o 1.18% i’r holl denantiaid ac, yn ychwanegol, roedd yn gweithredu’r ymgodiad trosiannol o £2 i denantiaid sydd ar hyn o bryd yn talu o leiaf £3 o dan y rhent targed, sy’n gyfwerth â chynnydd cyffredinol o 2% mewn rhent, fel yr amlinellir yn y Cynllun Busnes.
Cynigiwyd cynnydd o 2% mewn rhent garejis a lleiniau garejis ar gyfer 2022/2023, a oedd gyfwerth â £0.20 yr wythnos am rent garejis, gan olygu bod y rhent wythnosol yn £10.23 (yn seiliedig ar 52 wythnos).
O ran Taliadau Gwasanaeth, cynigiwyd rhewi’r cynnydd eto yn 2022/23 oherwydd effaith barhaus y pandemig a byddai mwy o waith yn cael ei gyflawni yn ystod 2022/23, er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau sy’n cael eu darparu o safon uchel, yn cynnig gwerth am arian a bod y gwir gostau’n cael eu hadlewyrchu wrth gyfrifo taliadau gwasanaeth.
Gofynnodd y Cynghorydd Helen Brown a oedd modd darparu dadansoddiad o’r taliadau rhent a rhent garejis mewn punnoedd a cheiniogau ar gyfer y Pwyllgor. Eglurodd y Rheolwr Cyllid Strategol (Masnachol a Thai) y byddai’r wybodaeth hon yn amrywio ar gyfer pob tenant, ond y byddai modd darparu cyfartaledd ar gyfer tenantiaid i’r Pwyllgor ar ôl y cyfarfod.
Siaradodd yr Aelodau o blaid y gwaith a wneir o ran lleiniau garejis, fel yr amlinellir fel rhan o’r cyflwyniad.
Cafodd yr argymhelliad, a amlinellir o fewn yr adroddiad, ei gynnig gan y Cynghorydd Ron Davies a’i eilio gan y Cynghorydd Helen Brown.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cefnogi Cynllun Busnes Ariannol 30 mlynedd y Cyfrif Refeniw Tai a’r Gyllideb ar gyfer 2022/23, fel a gyflwynwyd yn yr adroddiad a’r atodiadau.