Mater - cyfarfodydd

Parc Adfer Community Benefit Fund

Cyfarfod: 18/01/2022 - Cabinet (eitem 102)

102 Cronfa Mantais Gymunedol Parc Adfer pdf icon PDF 109 KB

Pwrpas:        Rhannu manylion y Gronfa Mantais Gymunedol, gan gynnwys meini prawf cymhwyso a’r broses.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad ac esboniodd, fel rhan o gaffaeliad y contract Parc Adfer a Phartneriaeth Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru, cytunwyd ariannu a rheoli Cronfa Mantais Gymunedol a fyddai’n cael ei rhedeg am hyd y contract.

 

            Roedd y Gronfa Mantais Gymunedol yn ymrwymiad trwy gontract rhwng yr Awdurdod ac Enfinium (Wheelabrator Technologies Inc gynt), ac roedd hefyd yn ymrwymiad trwy gontract i bob awdurdod partner unigol o fewn yr Ail Gytundeb Rhwng Awdurdodau.

 

            Hyd yma roedd y Gronfa Mantais Gymunedol wedi cael ei defnyddio i ariannu Cronfa Adferiad Cymunedol Parc Adfer i ddechrau, a oedd bellach ar gau i geisiadau.  Mae wedi dyfarnu grantiau i dros 10 o brosiectau sydd wedi bod yn werth cyfanswm o dros £60,000.  Amlinellwyd manylion y brif Gronfa Mantais Gymunedol, gan gynnwys prosiectau a meini prawf cymhwyso, yn yr adroddiad gan geisio cymeradwyaeth i lansio ar ddechrau 2022.

 

            Byddai’r panel a’r trefniadau llywodraethu presennol, a sefydlwyd ar gyfer y Gronfa Adferiad Cymunedol, yn aros yr un fath yn bennaf ar gyfer y brif Gronfa Mantais Gymunedol pan fyddai’n cael ei lansio, yn ogystal â nifer o’r meini prawf cymhwyso cyffredinol.  Fodd bynnag, byddai’r math o brosiectau a ariennir yn wahanol er mwyn adlewyrchu bwriad gwreiddiol y gronfa, sef ariannu prosiectau cymunedol a fyddai o fudd amgylcheddol i’r ardal leol.

 

Diolchodd y Cynghorydd i’r Rheolwr Prosiect, Steffan Owen, am ei holl waith ar y prosiect hwn.

 

Ar feini prawf y prosiect, esboniodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) fod 5 maen prawf, nid 6 fel y nodwyd yn yr adroddiad.  Ar ôl cael cymeradwyaeth y Cabinet, byddai Cyd-bwyllgor Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru yn cael briffiad yngl?n â’r canlyniad a’r meini prawf cymhwyso diwygiedig ar gyfer y Gronfa Mantais Gymunedol.  Unwaith y byddai’r briffiad hwnnw wedi digwydd, byddai modd lansio’r Gronfa Mantais Gymunedol yn gyhoeddus trwy ddosbarthu datganiad i’r wasg, rhoi diweddariad ar wefan y Cyngor a anfon llythyr at randdeiliaid i’w hysbysu.  Roedd disgwyl i hyn ddigwydd ar ddiwedd mis Chwefror / dechrau mis Mawrth 2022.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y prif feini prawf cymhwyso arfaethedig ar gyfer Cronfa Mantais Gymunedol y Parc Adfer yn cael eu cymeradwyo a bod lansiad arfaethedig y gronfa ar ddechrau 2022 yn cael ei gefnogi; a

 

(b)       Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i’r Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth), mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd, i wneud newidiadau i’r dogfennau angenrheidiol (e.e. nodiadau cyfarwyddyd) sy’n gynwysedig o fewn bwriadau a chanlyniadau dymunol y gronfa, a gwneud newidiadau bach i’r trefniadau llywodraethu (e.e. aelodaeth panel, cymorth swyddogion ac ati).