Mater - cyfarfodydd

Corporate Recovery Risk Profile

Cyfarfod: 06/01/2022 - Pwyllgor Adfer (eitem 54)

54 Proffil Risg Adferiad Corfforaethol pdf icon PDF 91 KB

Pwrpas:        Adolygu’r Gofrestr Risg ddiweddaraf ar gyfer Adferiad Corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr ddiweddariad am y Gofrestr Risg Adferiad Corfforaethol a Mesurau Lliniaru a oedd yn dangos bod risgiau’n parhau i gael eu rheoli’n dda trwy gydol y sefyllfa frys.

 

Roedd yr wyth risg a oedd yn cynyddu o ran tueddiadau risg yn ymwneud yn bennaf ag absenoldebau staff a galw ychwanegol ar wasanaethau, a oedd yn adlewyrchu cam presennol y pandemig.  Yn dilyn sylwadau’r Cadeirydd ar argaeledd gweithwyr allweddol a throsiant y gweithlu, cydnabu'r Prif Weithredwr effaith y pandemig ar ddewisiadau bywyd unigolion, nad oedd yn unigryw i Sir y Fflint.  Cyfeiriodd at y fframwaith mwy a oedd wedi’i roi ar waith i gefnogi gweithwyr.

 

Cynigiodd y Cadeirydd argymhelliad ychwanegol, sef bod gohebiaeth yn cael ei hanfon at bob gweithiwr i fynegi gwerthfawrogiad am eu gwaith ar draws y sefydliad a’r effaith gadarnhaol ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Hilary McGuill.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r gofrestr risg ddiweddaraf a chamau lliniaru risg o fewn y portffolios corfforaethol; a

 

(b)       Bod gohebiaeth yn cael ei hanfon at bob gweithiwr i ddiolch iddynt am eu gwaith caled yn ystod y pandemig ac i amlinellu pa mor werthfawr yw eu swyddi i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu cynnal.