Mater - cyfarfodydd
Residential, Short Breaks and Therapeutic Services for Children and Young People in Flintshire
Cyfarfod: 18/01/2022 - Cabinet (eitem 105)
Seibiannau Preswyl, Byr a Gwasanaethau Therapiwtig i Blant a Phobl Ifanc yn Sir y Fflint
Pwrpas: Ceisio cymeradwyaeth i dendro ar gyfer y gwasanaethau a enwir yn yr adroddiad.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2
- Restricted enclosure 3
- Restricted enclosure 4
- Restricted enclosure 5
- Gweddarllediad ar gyfer Seibiannau Preswyl, Byr a Gwasanaethau Therapiwtig i Blant a Phobl Ifanc yn Sir y Fflint
Cofnodion:
DEDDF LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) 1985 – YSTYRIED GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD
PENDERFYNWYD:
Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig o dan baragraff(au) 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
105. GWASANAETHAU PRESWYL, SEIBIANT BYR A THERAPIWTIG I
BLANT A PHOBL IFANC YN SIR Y FFLINT
Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ac esboniodd bod disgwyl i’r contractau presennol ddod i ben ym mis Mawrth 2022 ac fel y cyfryw, byddai gofyn i’r gwasanaethau fynd allan i dendr cystadleuol er mwyn cydymffurfio â’r Rheolau Gweithdrefn Contractau a’r Rheoliadau Contractau Cyhoeddus.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r cynnig i ailgomisiynu’r Gwasanaethau Preswyl, Seibiant Byr a Therapiwtig i Blant a Phobl Ifanc yn Sir y Fflint yn unol â Rheolau'r Weithdrefn Gontractau; a
(b) Bod pwerau dirprwyedig yn cael eu rhoi i’r Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) i arwyddo contract gyda’r darparwr llwyddiannus yn dilyn y broses gaffael.