Mater - cyfarfodydd

Diversity in Democracy Action Plan

Cyfarfod: 26/01/2022 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd (eitem 25)

25 Cynllun Gweithredu Amrywiaeth mewn Democratiaeth pdf icon PDF 89 KB

Pwrpas:        Derbyn Cynllun Gweithredu Amrywiaeth mewn Democratiaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y Cynllun Gweithredu Amrywiaeth mewn Democratiaeth Drafft, fel y nodwyd yn Atodiad 1 yr Adroddiad.  Bwriad y cynllun gweithredu drafft oedd lleihau neu dynnu rhwystrau i etholiad ymysg y grwpiau a dangynrychiolir ac roedd yn cynnwys cyfres o ffrydiau gwaith.

 

Ers 2018, roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi bod yn edrych os oedd demograffeg cynrychiolwyr etholedig yn adlewyrchu demograffeg yr ardaloedd yr oeddent yn ei gynrychioli.  Yn 2021 penderfynodd annog holl Gynghorau yng Nghymru i ymrwymo i’w datganiad amrywiaeth mewn democratiaeth eu hunain er mwyn ceisio gwneud y cohort Cynghorwyr etholedig yn fwy adlewyrchol o’r boblogaeth ar y cyfan.  Cafodd yr 11 maes allweddol ar gyfer ystyriaeth eu crynhoi o fewn yr adroddiad a manylodd y Prif Swyddog ar y camau arfaethedig mewn perthynas â bob maes o fewn y cynllun gweithredu drafft, a ddangosir yn Atodiad 1.

 

Fe wnaeth y Prif Swyddog hefyd ddarparu manylion o’r sylwadau/awgrymiadau a wnaed gan Aelodau yn ystod y sesiynau briffio a gynhaliwyd er mwyn ystyried y cynllun gweithredu drafft a sut cafodd y rhain  eu hystyried wrth gyflwyno’r adroddiad.

 

Gwahoddodd y Prif Swyddog y Cydlynydd Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a Gofal Cymdeithasol i wneud sylw ar y cynllun gweithredu drafft, gan ddiolch iddi am ei gwaith wrth ddrafftio’r cynllun gweithredu.  Nid oedd y Cydlynydd yn dymuno ychwanegu unrhyw beth i’r cyflwyniad a roddwyd gan y Prif Swyddogion, ond awgrymodd y byddai’r Pwyllgor yn dymuno ychwanegu argymhelliad ychwanegol i’r Pwyllgor fonitro’r cynllun gweithredu wrth symud ymlaen.

 

Cafodd yr argymhelliad, fel yr amlinellwyd o fewn yr adroddiad, ynghyd â’r argymhelliad ychwanegol i’r Pwyllgor fonitro’r cynllun gweithredu yn y dyfodol, ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Chris Bithell ac Ian Smith. 

 

Siaradodd Chris Bithell o blaid yr adroddiad ac amlinellodd gwaith blaenorol y Cyngor, a gafodd gydnabyddiaeth genedlaethol i gynyddu amrywiaeth ac annog pobl i ddod yn Gynghorwyr.  Dywedodd ei fod yn siomedig gweld fod nifer y bobl ifanc a bleidleisiodd yn etholiad y Cynulliad Cenedlaethol wedi bod yn isel ac amlinellodd y gwaith roedd y Cyngor wedi’i wneud i sefydlu Cyngor Ieuenctid a chyfleoedd yn y gorffennol i bobl ifanc fynychu cyfarfodydd gyda Chynghorwyr i drafod materion.  Gwnaeth sylw ar bolisïau cyflogaeth ar gyfer sefyll ar gyfer swydd gyhoeddus a dywedodd er y gall gyflogwyr letya hyn, gall ddod yn Gynghorydd a chael amser i ffwrdd o’r gwaith i fynychu cyfarfodydd ac ati, effeithio ar gyfleoedd o fewn y gyflogaeth yn y dyfodol.

 

Er ei fod yn croesawu’r cynigion, siaradodd y Cynghorydd Ian Smith am gyfarfodydd yn cael eu cynnal yn y boreau/prynhawniau gan atal pobl ifanc rhag sefyll ar gyfer etholiad.  Dywedodd bod cyfarfodydd Pwyllgor yn y bore yn golygu fod rhaid i Gynghorwyr gymryd diwrnod llawn o’r gwaith er mwyn mynychu.  Gwnaeth sylw hefyd ar gyfarfodydd gyda chyrff allanol yn cael eu cynnal yn ystod y dydd ac anallu Cynghorwyr a oedd yn gweithio llawn amser i gwrdd yn rheolaidd â’r Heddlu ac ati, yn sgil ymrwymiadau gwaith.  

 

Siaradodd y Cynghorydd Mike Peers am y gefnogaeth  ...  view the full Cofnodion text for item 25