Mater - cyfarfodydd

Vehicle Permit Criteria for Household Recycling Centres

Cyfarfod: 18/01/2022 - Cabinet (eitem 96)

96 Meini Prawf Pás Cerbyd i Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Ty pdf icon PDF 109 KB

Pwrpas:        I dderbyn cymeradwyaeth y Cabinet i adolygu’r meini prawf i wneud cais am bás cerbyd i Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff T?.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad ac esboniodd fod nifer o argymhellion wedi cael eu cyflwyno i’r Cabinet, yn dilyn dau seminar i’r holl Aelodau ym mis Medi 2021, ar newidiadau i’w gwneud i’r strategaeth wastraff bresennol fel bod y Cyngor yn gallu cyflawni cyfradd ailgylchu o 70% erbyn 2025.

 

Un argymhelliad oedd adolygu’r meini prawf ar gyfer cael pàs cerbyd i ganolfannau ailgylchu gwastraff t?, er mwyn egluro’n well i ddefnyddwyr pa fathau a meintiau o gerbydau a ganiateir a sicrhau nad yw masnachwyr yn cymryd mantais o’r system.  Ail argymhelliad oedd y dylid cyflwyno system archebu ar gyfer ffrydiau gwastraff peryglus neu anodd er mwyn medru eu rheoli’n well wrth iddyn nhw gyrraedd y safle.

 

Cafodd y ddau argymhelliad eu cymeradwyo gan y Cabinet ym mis Medi 2021, ond gofynnwyd am adroddiad arall er mwyn cael eglurhad pellach yngl?n â sut y byddai’r newidiadau yn cael eu gweithredu.  Roedd yr adroddiad hwn yn gosod allan y Polisi Pàs Cerbydau diwygiedig ac yn cynnig meini prawf archebu ar gyfer gwaredu asbestos a matresi.

 

Esboniodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) bod y pwyntiau allweddol yn y Polisi arfaethedig ar gyfer Meini Prawf Pàs Cerbydau wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad.  Ychwanegodd hi fod y system ganiatâd bresennol yn caniatáu, yn anfwriadol, i fasnachwyr a busnesau masnachol gamddefnyddio’r system a dod â ffrydiau gwastraff masnachol i mewn.  Wrth i staff eu cwestiynu neu eu herio, roedd rhai o’r cwsmeriaid hynny yn troi’n ymosodol gan arwain at amgylcheddau gwaith amhleserus.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r Polisi Pàs Cerbydau diwygiedig ar gyfer Canolfannau Ailgylchu Gwastraff T?; a

 

(b)       Chymeradwyo’r meini prawf system archebu Canolfannau Ailgylchu Gwastraff T?.