Mater - cyfarfodydd

Establishing the Corporate Joint Committee for North Wales

Cyfarfod: 14/12/2021 - Cabinet (eitem 84)

84 Sefydlu Cyd-bwyllgor Corfforedig ar gyfer Gogledd Cymru pdf icon PDF 85 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo trefniadau Llywodraethu amlinellol ar gyfer y Cyd-bwyllgor Corfforedig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd fod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn rhoi p?er i Weinidogion greu math newydd o gorff rhanbarthol o’r enw Cyd-bwyllgor Corfforedig.  Roedd Gweinidogion wedi gorchymyn bod pedwar Cyd-bwyllgor Corfforedig yn cael eu creu yng Nghymru, a phob un â’r un pedair swyddogaeth: lles economaidd; paratoi Cynllun Datblygu Strategol; cludiant; a gwella addysg.  Roedd yr union drefniadau llywodraethu ar gyfer pob Cyd-bwyllgor i gael eu pennu gan y corff ei hun.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr bod Cyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru wedi’i greu ar 1 Ebrill 2021 ac y byddai ei swyddogaethau’n dod i rym ar 30 Mehefin 2022.  Roedd yn rhaid iddo osod ei gyllideb amlinellol ar gyfer ei flwyddyn gyntaf o weithredu cyn pen mis Ionawr 2022.  Roedd felly angen i’r Cyd-bwyllgor amlinellu ei drefniadau llywodraethu.  Roedd y swyddogaeth lles economaidd yn cwmpasu’r diben y sefydlwyd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (BUEGC) ar ei gyfer.  Byddai’r swyddogaethau cynllunio strategol a chludiant hefyd yn dylanwadu ar rôl BUEGC felly roedd yn bwysig bod y corff newydd yn ystyried, ac yn plethu ynghyd â strwythurau llywodraethu rhanbarthol presennol.  Roedd cynigion ar gyfer y strwythurau llywodraethu ynghlwm wrth yr adroddiad. 

 

Ychwanegodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn aelod ychwanegol oedd â hawl i bleidleisio ar y Cyd-bwyllgor, ond ar faterion oedd ynghlwm â’r swyddogaeth cynllunio strategol a’i gyllideb yn unig. 

 

Croesawai’r Cynghorydd Johnson yr adroddiad, yn enwedig bod gan y Cynghorau a’r Cyd-bwyllgor Corfforedig bwerau cyfochrog ynghlwm â hyrwyddo lles economaidd, a’r dyletswyddau ehangach a oedd yn sail i’r cynigion.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell am yr angen am awdurdod cynnal ar gyfer cynllunio strategol, ac un ar gyfer trafnidiaeth strategol, eglurodd y Prif Weithredwr fod Sir y Fflint yn gweithio'n strategol ar gludiant ar hyn o bryd, felly roedd y sgiliau angenrheidiol ar gael pe bai gofyn i Sir y Fflint fod yn yr awdurdod cynnal ar gyfer trafnidiaeth strategol. 

 

Roedd y Cynghorydd Banks hefyd yn croesawu’r adroddiad a gofynnodd a fyddai’n bwnc mewn gweithdy i Aelodau yn y dyfodol.  Eglurodd y Prif Weithredwr fod hwn yn ddarn o waith a oedd yn datblygu ac y byddai adroddiadau'n cael eu cyflwyno'n rheolaidd i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ac i'r Cabinet.

 

Ychwanegodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod yr adroddiad yn cael ei ystyried gan bob un o'r chwe Chyngor ac felly ei fod mewn fformat cyffredin i sicrhau bod y materion yn cael eu cyflwyno'n gyson i bob Cyngor.

                                   

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cytuno mewn egwyddor fod swyddogaethau Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn cael eu trosglwyddo drwy gytundeb dirprwyo i Gyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru ar yr amod;

a)         bod y fframwaith statudol sy’n cael ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru yn caniatáu dirprwyo’r swyddogaethau gweithredol perthnasol i Gyd-bwyllgor Corfforaethol

b)         bod Cydbwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru yn cytuno i sefydlu Is-bwyllgor, gan gytuno ar yr aelodaeth gyda’r Cynghorau, i ymgymryd â swyddogaethau’r Bwrdd Uchelgais Economaidd.

 

b)         Cytuno ar y trosglwyddiad er mwyn cael model llywodraethu mwy syml,  ...  view the full Cofnodion text for item 84