Mater - cyfarfodydd

Welfare Reform Update

Cyfarfod: 08/12/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau (eitem 31)

31 Diweddariad am Ddiwygio'r Gyfundrefn Les pdf icon PDF 217 KB

Pwrpas:        I roi diweddariad ar effaith Diwygio’r Gyfundrefn Les ar breswylwyr Sir y Fflint

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Rheolwr Budd-daliadau ddiweddariad ar yr effeithiau y mae diwygio’r gyfundrefn les yn parhau i’w gael ar drigolion Sir y Fflint a’r gwaith sy’n cael ei wneud i’w lliniaru a chefnogi’r aelwydydd perthnasol.  Mae’r pandemig wedi cael effaith sylweddol ar aelwydydd agored i niwed, ac roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth am amrywiaeth o fesurau a ddatblygwyd i helpu'r rhai hynny sydd wedi'u heffeithio gan y pandemig presennol a'r gefnogaeth a roddwyd i drigolion i geisio lliniaru'r effeithiau negyddol. 

 

Rhoddodd y Rheolwr Budd-daliadau ddiweddariad manwl ar y meysydd canlynol, fel y manylwyd o fewn yr adroddiad:- 

 

  • Cael gwared â’r cynnydd Credyd Cynhwysol o £20.  Darparwyd astudiaeth achos a oedd yn tynnu sylw at y pryderon a’r dewisiadau y byddai angen i breswylwyr eu gwneud.   Nid oedd galw mawr wedi bod am gefnogaeth ar hyn o bryd ond roedd ar gael os oedd ei angen;   
  • Roedd cynnydd wedi bod yn y galw am gymorth cyllidebu gan fod preswylwyr yn gorfod ymestyn eu cyllidebau; 
  • Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor.   Er gwaetha’r galw uchel yn ystod y pandemig, roedd y niferoedd a oedd yn ei dderbyn yn araf ar hyn o bryd.   Roedd gwaith wedi’i wneud i ddeall pryd fydd angen cymorth i gefnogi pobl mewn trafferthion;
  • Y cynllun ffyrlo yn dod i ben.   Ar hyn o bryd nid oedd galw mawr am geisiadau am gefnogaeth.   Mae’n bosibl fod pobl yn ceisio cydbwyso eu harian, a bydd hyn yn parhau i gael ei fonitro ac roedd pob proses ar waith i roi cymorth;
  • Roedd taliadau hunan-ynysu yn parhau gyda nifer uchel o geisiadau wedi’u cyflwyno; a
  • Roedd Taliadau Dewisol Tai yn parhau i gynyddu’n raddol.  Roedd gostyngiad wedi bod mewn cyllid gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ond roedd Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £126,000 yn ychwanegol at daliadau’r Adran Gwaith a Phensiynau i alluogi’r cymorth hwnnw.

 

Rhoddodd y Rheolwr Budd-daliadau ddiweddariad ar lafar ar y Lwfans Cymorth Tanwydd y Gaeaf hefyd.   Roedd y cynllun yn amodol ar gymeradwyaeth terfynol Llywodraeth Cymru ac yn agor ddydd Llun 13 Rhagfyr 2021.   Roedd pob Awdurdod Lleol yng Nghymru yn mabwysiadu’r un dull a rhagwelir y byddai tua 9,000 o hawlwyr yn Sir y Fflint.  Roedd amodau hawlio budd-daliadau ynghlwm ac amodau o ran darparwyr ynni.   Roedd preswylwyr cymwys yn gallu hawlio £100 oddi ar eu biliau tanwydd.   Cadarnhaodd y byddai hwn yn cael ei gyhoeddi unwaith y bydd wedi’i gymeradwyo drwy’r cyfryngau cymdeithasol, gwefannau ac ati.   Ym mis Ionawr, yn dilyn dadansoddi data, byddwn yn cysylltu â’r aelwydydd cymwys hynny nad ydynt wedi hawlio i’w hannog nhw i hawlio.

 

Bu i’r Cadeirydd ddiolch i’r Rheolwr Budd-daliadau am ddiweddariad manwl.   Cafodd yr argymhelliad, fel y nodir yn yr adroddiad, ei gynnig gan y Cynghorydd David Wisinger a’i eilio gan y Cynghorydd Ron Davies.    

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r gwaith parhaus i reoli’r effaith y mae diwygio’r gyfundrefn les yn ei gael, ac yn parhau i’w gael, ar rai o’r preswylwyr mwyaf agored i niwed yn Sir y Fflint.