Mater - cyfarfodydd

Draft Petitions Scheme

Cyfarfod: 26/01/2022 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd (eitem 24)

24 Cynllun Deisebau Drafft pdf icon PDF 78 KB

Pwrpas:        Galluogi’r pwyllgor i ystyried a chymeradwyo y Cynllun Deisebau drafft.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) gynllun deisebau drafft, a fydd yn galluogi aelodau’r cyhoedd i drefnu a chyflwyno deisebau yn uniongyrchol i’r Cyngor Sir.  Roedd Adran 42 Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, a fyddai’n dod i rym o 5 Mai 2022, yn rhoi dyletswydd ar brif gynghorau i wneud a chyhoeddi cynllun deisebau.

 

Roedd Swyddogion wedi drafftio cynllun deisebau, yn seiliedig ar y meini prawf addasrwydd ar gyfer cwestiynau’r Cyngor, gyda chopi yn Atodiad 1 yr adroddiad.  Roedd hyn wedi bod mewn lle ers rhai blynyddoedd ac yn dilyn adolygiad roedd yn dal i gael ei ystyried yn addas gyda chyflwyniad deisebau electronig yn cael eu rheoli gan ddefnyddio meddalwedd Modern.gov a oedd yn cefnogi’r system pwyllgorau.     

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhellion, a amlinellwyd yn yr adroddiad, gan y Cynghorwyr Bob Connah a Rob Davies.

 

Siaradodd y Cynghorydd Vicky Perfect o blaid y gofyniad bod rhaid i lofnodwr fyw neu weithio o fewn ardal y Cyngor, a dywedodd fod deisebau blaenorol wedi’u derbyn o wledydd eraill mewn perthynas â Chastell y Fflint.

 

Ceisiodd y Cynghorydd Ted Palmer eglurhad na fyddai deisebau gan sefydliadau megis change.org yn cael eu derbyn.  Eglurodd y Prif Swyddog y byddai system ddeisebau’r Cyngor ar gael yn eang ond bod angen adeiladu sicrwydd i mewn i gynllun y Cyngor ei hun.  Roedd y Cynghorydd Palmer yn cefnogi’r argymhelliad hwn gan ei fod yn teimlo y byddai’n anodd asesu lle’r oedd yr holl lofnodwyr yn byw ac yn gweithio drwy unrhyw gynlluniau deisebau eraill. 

 

Awgrymodd y Cynghorydd Mike Peers y dylai Aelodau lleol gael eu hysbysu o unrhyw ddeisebau a gyflwynir er mwyn delio ag unrhyw ymholiadau gan drigolion lleol a all godi o’r ddeiseb, a gofynnodd hefyd a fyddai mecanwaith ar gael er mwyn i’r cyhoedd apelio os oeddent yn teimlo nad oedd y ddeiseb wedi cael ei drin yn gywir.  Gwnaeth sylw ar yr adolygiad o ddeisebau er mwyn sicrhau eu bod yn briodol a chwestiynodd os oedd Aelodau lleol yn gallu cyflwyno deiseb i’r Cyngor Sir yn dilyn gwrthod unrhyw ddeisebau ar-lein yn sgil eu priodolrwydd.  I gloi, cwestiynodd y cynnig na ddylai deisebau gael eu derbyn os oeddent yn ymwneud â cheisiadau cynllunio.  Teimlodd y byddai deiseb ar gais cynllunio yn rhoi cyfle i aelodau’r cyhoedd wneud sylw, yn arbennig ar geisiadau graddfa fawr, a hefyd yn rhoi mwy o safbwyntiau i’r Pwyllgor.

 

Siaradodd y Cynghorydd Chris Bithell o blaid caniatáu pobl a oedd yn byw a gweithio tu allan i’r Sir i gyflwyno ac arwyddo deisebau ar-lein.  Roedd yn teimlo y dylai barn trigolion mewn siroedd cyfagos ac sy’n ymweld â Sir y Fflint yn rheolaidd ar gyfer siopa a thwristiaeth, gael eu clywed.  Gwnaeth sylw ar y cynnig y byddai’r Prif Weithredwr yn penderfynu sut i ymateb i ddeiseb a gofynnodd pe byddai penderfyniad yn cael ei wneud i beidio gweithredu, y byddai rheswm hefyd yn cael ei ddarparu.  O ran deisebau ar geisiadau cynllunio, amlinellodd enghreifftiau lle’r oedd ceisiadau cynllunio wedi parhau i gael eu hystyried gan y  ...  view the full Cofnodion text for item 24