Mater - cyfarfodydd
Council Plan 2021/22 Mid-Year Performance Reporting
Cyfarfod: 14/12/2021 - Cabinet (eitem 81)
81 Adrodd ar Berfformiad Canol Blwyddyn Cynllun y Cyngor 2021/2022 PDF 120 KB
Pwrpas: Adolygu adroddiad monitro perfformiad canlyniad canol blwyddyn Cynllun y Cyngor 2021/22.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Council Plan 2021/22 Mid-Year Performance Reporting, eitem 81 PDF 1 MB
- Gweddarllediad ar gyfer Adrodd ar Berfformiad Canol Blwyddyn Cynllun y Cyngor 2021/2022
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd ei fod yn rhoi crynodeb o berfformiad ar ganol y flwyddyn.
Dywedodd y Prif Weithredwr ei fod yn dangos bod 70% o weithgareddau’n gwneud cynnydd da, ac roedd 73% yn debygol o gyflawni’r canlyniadau a gynlluniwyd. Roedd 53% o'r dangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu ragori ar eu targedau, gyda 2% yn cael eu monitro'n agos ac roedd 20% ddim yn cyrraedd y targed ar hyn o bryd. Roedd y 25% arall yn fesurau newydd ac yn cael eu monitro fel blwyddyn sylfaen.
Ychwanegodd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol fod yr adroddiad yn un ar sail eithriadau ac yn canolbwyntio ar danberfformio ar y targedau.
Roedd y Cynghorydd Roberts yn dymuno cofnodi diolch i holl staff y Cyngor am eu hymdrechion yn ystod y pandemig, gan ychwanegu y byddai gwasanaethau hefyd yn parhau drwy gydol cyfnod y Nadolig. Cytunodd y Prif Weithredwr â’r sylwadau hynny gan ddweud bod gan yr awdurdod le i ddiolch yn arbennig i’r staff. Fe wnaeth pob aelod hefyd dalu teyrnged i’r holl staff.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo a chefnogi’r canlynol:
· Y lefelau cynnydd a hyder cyffredinol o ran cyflawni gweithgareddau o fewn Cynllun y Cyngor 2021/22
· Y perfformiad cyffredinol yn erbyn dangosyddion perfformiad Cynllun y Cyngor 2021/22
(b) Bod yr Aelodau'n cael eu sicrhau gan gynlluniau a chamau gweithredu i reoli'r gwaith o gyflawni Cynllun y Cyngor 2021/22 a gan yr esboniadau ar gyfer y meysydd hynny lle’r oedd tanberfformiad.