Mater - cyfarfodydd
North Wales Supported Living Framework – Flintshire Supported Living commissioning.
Cyfarfod: 14/12/2021 - Cabinet (eitem 89)
Fframwaith Byw â Chymorth Gogledd Cymru - comisiynu Byw â Chymorth Sir y Fflint.
Pwrpas: Yn unol â Rheolau Gweithdrefn Gontractau awdurdodau lleol, oherwydd gwerth disgwyliedig y contractau, mae angen cymeradwyaeth y Cabinet i barhau gydag ymarferion tendr a dyfarnu’r contractau hyn.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2
- Restricted enclosure 3
- Gweddarllediad ar gyfer Fframwaith Byw â Chymorth Gogledd Cymru - comisiynu Byw â Chymorth Sir y Fflint.
Cofnodion:
DEDDF LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) 1985 – YSTYRIED GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD
PENDERFYNWYD:
Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig o dan baragraff(au) 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
90. FFRAMWAITH BYW Â CHYMORTH GOGLEDD CYMRU – SIR Y FFLINT
COMISIYNU BYW Â CHYMORTH
Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad gan egluro, yn unol â Rheolau Gweithdrefn Gontractau awdurdodau lleol, oherwydd gwerth disgwyliedig dau gontract, bod angen cymeradwyaeth y Cabinet i barhau â’r broses o dendro a dyfarnu’r contractau.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo mabwysiadu Fframwaith Byw â Chymorth Gogledd Cymru ar gyfer y ddau ddarpar ymarfer comisiynu Byw â Chymorth am saith lleoliad; a
(b) Chymeradwyo’r cynnig i gomisiynu'r Gwasanaethau Byw â Chymorth, yn unol â Rheolau’r Weithdrefn Gontractau sy'n gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu contractau gwerth dros £2 filiwn.