Mater - cyfarfodydd
Housing Strategy and Action Plan
Cyfarfod: 14/12/2021 - Cabinet (eitem 83)
83 Strategaeth Tai a Chynllun Gweithredu PDF 102 KB
Pwrpas: Nodi'r Cynllun Gweithredu Cynnydd Hydref 2021.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Housing Strategy and Action Plan, eitem 83 PDF 199 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Strategaeth Tai a Chynllun Gweithredu
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad blynyddol ar y cynnydd i gyflawni’r blaenoriaethau yn Strategaeth Tai Lleol 2019-24.
Roedd cynllun gweithredu ar gyfer y Strategaeth Tai a oedd yn nodi tair blaenoriaeth gyda meysydd allweddol i weithredu arnynt o dan bob blaenoriaeth:
Blaenoriaeth 1: Cynyddu’r cyflenwad i ddarparu’r math cywir o gartrefi yn y lleoliad cywir
Blaenoriaeth 2: Darparu cefnogaeth i sicrhau bod pobl yn byw ac yn aros yn y math cywir o gartref
Blaenoriaeth 3: Gwella ansawdd a chynaliadwyedd cartrefi.
Roedd pob un o’r blaenoriaethau wedi’u manylu yn yr adroddiad, ynghyd â sut y byddai’r Cyngor yn mynd i’r afael â’r blaenoriaethau yn y cynllun gweithredu.
PENDERFYNWYD:
Nodi adroddiad cynnydd Hydref 2021 y Cynllun Gweithredu.