Mater - cyfarfodydd
Overview & Scrutiny Annual Report 2020/21
Cyfarfod: 07/12/2021 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 68)
68 Adroddiad Blynyddol Trosolwg A Chraffu 2020/21 PDF 76 KB
Pwrpas: Ystyried a chymeradwyo Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu ar gyfer.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 Overview & Scrutiny Annual Report 2020/21, eitem 68 PDF 1 MB
- Gweddarllediad ar gyfer Adroddiad Blynyddol Trosolwg A Chraffu 2020/21
Cofnodion:
Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad gan egluro bod yr Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu’n cael ei ddrafftio’n flynyddol gan y tîm o swyddogion, gan ymgynghori â’r Cadeiryddion Craffu perthnasol. Cyflwynwyd y drafft wedyn i Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd i Aelodau wneud sylwadau arno cyn iddo gael ei gyflwyno i’r Cyngor i’w gymeradwyo’n ffurfiol.
Roedd yr Adroddiad Blynyddol yn rhoi sicrwydd i’r Cyngor bod y swyddogaeth Trosolwg a Chraffu yn cyflawni ei rôl gyfansoddiadol.
Diolchodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd i’r holl aelodau a swyddogion am fod yn rhan o’r broses Trosolwg a Chraffu dros y flwyddyn ddiwethaf.
Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Phillips a’i eilio gan y Cynghorydd Mullin.
Diolchodd y Cynghorydd David Healey i’r swyddogion am y gwaith a wnaethant yn ystod y pandemig i sicrhau bod y broses Trosolwg a Chraffu’n parhau. Roedd yn croesawu’n benodol fod yr holl gyfarfodydd wedi’u ffrydio’n fyw, a oedd yn helpu’r cyhoedd i gael mynediad at ddemocratiaeth leol.
Diolchodd y Cynghorydd Marion Bateman i’r swyddogion am y cymorth a’r gefnogaeth a gafodd hi pan oedd yn Gadeirydd y Cyngor yn ystod y pandemig.
PENDERFYNWYD:
Derbyn Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu 2020/21.