Mater - cyfarfodydd

Declaration and Disposal of Land Surplus to Requirements

Cyfarfod: 17/11/2021 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd (eitem 33)

33 Datganiad a Gwarediad Tir Nad Oes ei Angen pdf icon PDF 86 KB

Cytuno ar fân newidiadau i’r Cyfansoddiad i wella tryloywder ac eglurder ynghylch sut fydd y tir yn cael ei ddatgan fel nad oes ei angen

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad i gytuno ar fân newidiadau i'r Cyfansoddiad ynghylch sut y byddai tir yn cael ei nodi’n dir nad oes ei angen.  Rhoddodd wybodaeth gefndir ac eglurodd nad oedd y broses ar gyfer nodi a gwaredu tir nad oes ei angen ar y Cyngor wedi’i gofnodi ar hyn o bryd a chynigiwyd cynnwys y broses yn y Cyfansoddiad er mwyn gwella tryloywder ac eglurder.  

 

            Cododd y Cynghorydd Mike Peers nifer o gwestiynau ynghylch awdurdod dirprwyedig, aelodaeth o Fwrdd y Rhaglen Asedau Cyfalaf, tir ac eiddo nad oes eu hangen, a'r cyfeiriad at adroddiad dirprwyedig yn adran 1.03 yr adroddiad.   Siaradodd y Cynghorydd Peers am yr angen i sicrhau bod ‘gwerth gorau’ yn cael ei sicrhau ar gyfer gwerthu tir/eiddo a chynigiodd bod cyfeiriad at hyn yn cael ei gynnwys yn y Cyfansoddiad.  Eiliodd y Cynghorydd Arnold Woolley y cynnig. 

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog at adran 1.04 yn yr adroddiad a dywedodd fod proses gofnodi ar wahân i awdurdodi gwerthu darn penodol o dir a oedd yn seiliedig ar werth y tir a rhoddodd drosolwg o'r broses waredu.  Cadarnhaodd bod Aelodau eisoes yn rhan o'r broses werthu.  Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Peers cadarnhaodd y Prif Swyddog y cafwyd prisiad annibynnol ar y bwriad i werthu tir. 

Mewn ymateb i’r sylwadau a wnaeth y Cynghorydd Peers ynghylch ‘gwerth gorau’, dywedodd y Prif Swyddog fod hwn yn rhwymedigaeth statudol ar y Cyngor na allai gael gwared ar dir sy’n llai na gwerth marchnad teg gan eithrio rhai amgylchiadau.  Cytunodd y Prif Swyddog gynnwys cyfeirio at yr angen i gael ‘ystyriaeth orau’ i’r ddirprwyaeth bresennol i Swyddogion ynghylch gwerthu tir. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Ian Smith, eglurodd y Prif Swyddog bod yn rhaid ymgynghori â'r Aelod(au) lleol ar werthu unrhyw dir yn eu Ward.

 

Gofynnodd y Cynghorydd David Healey pa gamau fyddai'n cael eu dilyn pe bai Corff Llywodraethu Ysgol yn anghytuno â'r posibilrwydd o werthu tir ar ystâd ysgol.  Eglurodd y Prif Swyddog y byddai trafodaethau'n digwydd â phawb sydd ynghlwm mewn amgylchiadau o'r fath.  Dywedodd y Prif Swyddog, pe bai Ysgol yn anghytuno â’r posibilrwydd o werthu darn penodol o dir, dylai'r penderfyniad ynghylch a oedd y tir yn cael ei ddatgan yn 'warged' fod yn destun adroddiad dirprwyedig ac amlinellodd y broses gwneud penderfyniadau ar gyfer adroddiadau dirprwyedig.   

 

            Cynigwyd yr argymhelliion canlynol gan y Cynghorydd David Healey a’u heilio gan y Cynghorydd Ted Palmer.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y broses arfaethedig ar gyfer nodi a gwaredu tir

nad oes ei angen bellach yn cael ei gynnwys yn y Cyfansoddiad;

 

(b)       Cynnwys cyfeiriad at yr angen i gael ‘ystyriaeth orau’ i’r ddirprwyaeth bresennol i Swyddogion ynghylch gwerthu tir; a

 

(c)        Pe bai Ysgol yn anghytuno â’r posibilrwydd o werthu darn penodol o dir, dylai'r penderfyniad ynghylch a oedd y tir yn cael ei ddatgan yn 'warged' fod yn destun adroddiad dirprwyedig