Mater - cyfarfodydd

Multi-location Meetings and future meetings model- progress report

Cyfarfod: 17/11/2021 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd (eitem 32)

32 Cyfarfodydd aml leoliad a'r model ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol - adroddiad cynnydd pdf icon PDF 100 KB

I roi gwybod i’r pwyllgor am y cynnydd presennol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad a rhoddodd wybodaeth gefndir a chyd-destun.  Dywedodd fod paragraffau 1.07 i 1.12 yr adroddiad yn nodi polisi cyfarfodydd aml leoliad interim a awgrymwyd i gael ei ystyried i’w fabwysiadu nes bod y Cyngor newydd, a fydd yn cael ei ethol ym mis Mai 2022, yn penderfynu ar ei bolisi ei hun.  Roedd yn rhagweld efallai na fyddai hyn yn rhesymol tan hydref 2022.

 

            Mewn ymateb i'r sylwadau a wnaeth y Cynghorydd Mike Peers, rhoddodd Swyddogion eglurhad am y cyfeiriad at gydbwysedd gwleidyddol fel y nodir ym mharagraff 1.08 yr adroddiad.  Gwnaeth y swyddogion sylw ar ymwybyddiaeth o argraffiadau’r cyhoedd ynghylch grwpiau gwleidyddol, y safiad niwtral o ran lleoliad a gafodd ei fabwysiadu gan awdurdodau lleol eraill, ac ymrwymiad y Cyngor i ehangu amrywiaeth a democratiaeth.

 

            Mewn ymateb i'r sylwadau ychwanegol a wnaeth y Cynghorydd Ted Palmer ynghylch cydbwysedd gwleidyddol yn adran 1.08 yr adroddiad, eglurodd y Prif Swyddog y byddai mynediad teg a chyfartal yn cael ei roi i'r holl Aelodau a oedd yn dymuno bod yn bresennol yn gorfforol yng nghyfarfodydd y Cyngor a gynhelir yn Siambr y Cyngor.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Arnold Woolley a ellid rhoi’r dewis o bleidleisio electronig yng nghyfarfodydd Zoom y Cyngor er mwyn sicrhau eglurder.  Siaradodd y Prif Swyddog o blaid defnyddio pleidleisio ar-lein mewn cyfarfodydd o bell.  Eglurodd y Rheolwr Tîm – Gwasanaethau Democrataidd fod profi’r system bleidleisio ar-lein ar Zoom wedi dangos bod angen gwneud rhagor o waith i’w addasu er mwyn ei ddefnyddio yng nghyfarfodydd y Cyngor a chytunodd i fwrw ymlaen â hyn.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Rob Davies a’i eilio gan y Cynghorydd Mike Peers.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y polisi Aml gyfarfodydd interim, fel y manylir arno ym mharagraffau 1.07 - 1.12

yr adroddiad yn cael ei fabwysiadu hyd nes bydd y Cyngor newydd yn penderfynu ar ei bolisi cyfarfodydd aml leoliad ei hun.