Mater - cyfarfodydd
Overview & Scrutiny Annual report 2020/21
Cyfarfod: 17/11/2021 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd (eitem 31)
31 Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu 2020/21 PDF 73 KB
Ystyried a chymeradwyo Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu ar gyfer 2020/21
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Overview & Scrutiny Annual report 2020/21, eitem 31 PDF 1 MB
- Gweddarllediad ar gyfer Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu 2020/21
Cofnodion:
Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar yr Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu ar gyfer 2020/21. Rhoddodd wybodaeth gefndir ac eglurodd y newidiadau a gafodd eu gwneud i fformat yr Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu drafft a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad i gael ei ystyried a'i gymeradwyo gan y Pwyllgor.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at dudalen 120 yr adroddiad ac, ar bwynt o gywirdeb, dywedodd fod y Cynghorydd Bob Connah wedi bod yn aelod o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant, o fis Rhagfyr 2020.
Awgrymodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y dylid cyfeirio at y rôl werthfawr sy’n cael ei chyflawni gan Arweinwyr Grwpiau o ran darparu craffu anffurfiol ar gynigion yn yr Adroddiad drafft. Awgrymodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd y dylid ychwanegu'r gydnabyddiaeth at ragair yr Adroddiad a ysgrifennodd Arweinydd y Cyngor.
Gwnaeth y Cynghorydd Ted Palmer gynnig yr argymhellion ac fe'u heiliwyd gan y Cynghorydd Arnold Woolley.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi sylwadau’r Pwyllgor ar yr Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu drafft ar gyfer 2020/21; a
(b) Cymeradwyo'r Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu drafft ar gyfer 2020/21 i'w gyflwyno i'r Cyngor.