Mater - cyfarfodydd
Revenue Budget Monitoring 2021/22 (Month 7)
Cyfarfod: 14/12/2021 - Cabinet (eitem 85)
85 Monitro Cyllideb Refeniw 2021/22 (Mis 7) PDF 177 KB
Pwrpas: Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2021/22 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 7 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Revenue Budget Monitoring 2021/22 (Month 7), eitem 85 PDF 201 KB
- Enc. 2 for Revenue Budget Monitoring 2021/22 (Month 7), eitem 85 PDF 145 KB
- Enc. 3 for Revenue Budget Monitoring 2021/22 (Month 7), eitem 85 PDF 24 KB
- Enc. 4 for Revenue Budget Monitoring 2021/22 (Month 7), eitem 85 PDF 218 KB
- Enc. 5 for Revenue Budget Monitoring 2021/22 (Month 7), eitem 85 PDF 94 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Monitro Cyllideb Refeniw 2021/22 (Mis 7)
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn darparu’r wybodaeth fanwl ddiweddaraf am sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw yn 2021/22 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai am y flwyddyn ariannol, a chyflwynodd y sefyllfa, yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol, fel yr oedd ym Mis 7.
Roedd yr adroddiad yn darogan sefyllfa’r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau a/neu wella’r elw ariannol ar gynllunio effeithlonrwydd a rheoli costau, sef:
Cronfa’r Cyngor
- Swm gweithredol o £0.655m dros ben (heb gynnwys effaith dyfarniad cyflog yr NJC a fyddai’n cael ei dalu o gronfeydd wrth gefn), a oedd yn newid ffafriol o £0.428m o’r swm o £0.227m dros ben a adroddwyd ym Mis 6
- Amcangyfrif o falans o £6.543m yn y gronfa wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2022
Y Cyfrif Refeniw Tai
· Amcangyfrif y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £0.539m yn uwch na’r gyllideb
· Amcangyfrif o falans terfynol o £3.933m ar 31 Mawrth 2022
Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod yr adroddiad hefyd yn rhoi manylion am sefyllfa pob portffolio; amrywiadau arwyddocaol y mis hwnnw; faint o’r arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd ar gyfer y flwyddyn a gyflawnwyd; cyllid at argyfwng, cronfeydd wrth gefn heb eu clustnodi a chronfeydd wrth gefn wedi eu clustnodi.
Yn ystod 2021/22 hyd yma, roedd cyfanswm o hawliadau costau ychwanegol dan y Gronfa Galedi rhwng mis Ebrill a mis Hydref o £6.192m ac roedd £1.096m o hawliadau Colli Incwm yn Chwarter 1 a 2 ar gyfer Aura, Newydd a Cambrian Aquatics.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r amcangyfrif o’r effaith ariannol ar gyllideb 2021/22; a
(b) Chymeradwyo trosglwyddiad cyllidebol o £2.731m ar gyfer Costau Cyfleustodau Canolog o’r Portffolio Tai ac Asedau i Gyllid Canolog a Chorfforaethol.