Mater - cyfarfodydd
Draft Council Plan 2022/23
Cyfarfod: 14/12/2021 - Cabinet (eitem 82)
82 Cynllun Drafft y Cyngor 2022/23 PDF 113 KB
Pwrpas: I adolygu cymeradwyo Rhan 1 diweddaraf o Gynllun y Cyngor 2022/23 cyn ymgynghori gyda’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Draft Council Plan 2022/23, eitem 82 PDF 167 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Cynllun Drafft y Cyngor 2022/23
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd ei fod yn dangos blaenoriaethau allweddol y Cyngor ar gyfer cyfnod y weinyddiaeth newydd o bum mlynedd. Roedd y Cynllun i gael ei adolygu’n flynyddol.
Roedd Cynllun Drafft 2022/23 wedi'i adolygu a'i adnewyddu o ran ei gynnwys yn dilyn yr ymateb i'r pandemig a'r Strategaeth Adfer. Roedd y themâu a’r blaenoriaethau yr un fath ag ar gyfer 2021/22, ond roedd rhai datblygiadau gydag is-flaenoriaethau.
Roedd ‘uwch-strwythur’ y Cynllun yn parhau i gyd-fynd â set o chwech o Amcanion Lles. Roedd y chwe thema’n parhau i roi ystyriaeth tymor hir i adfer, uchelgeisiau a gwaith dros y ddwy flynedd nesaf. Roedd yr amlinelliad o Gynllun y Cyngor ar gyfer 2022/23, yn cynnwys y chwe thema, eu blaenoriaethau a chamau gweithredu, wedi’u hatodi i’r adroddiad.
PENDERFYNWYD:
Cytuno ar themâu a blaenoriaethau drafft Rhan 1 Cynllun y Cyngor.