Mater - cyfarfodydd

Responsible Investment Roadmap – Analysis for Climate Transition

Cyfarfod: 10/11/2021 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 31)

31 Map ffordd Buddsoddiad Cyfrifol - Dadansoddiad ar gyfer Trawsnewid Hinsawdd pdf icon PDF 161 KB

Rhoi dadansoddiad i Aelodau'r Pwyllgor ar gyfer trawsnewid hinsawdd ac i ystyried a chytuno y dylai swyddogion gychwyn ymgynghoriad ar newidiadau priodol i’r Datganiad Strategaeth Buddsoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cychwynnodd Mr Latham drwy dynnu sylw at bwysigrwydd penderfyniadau yn yr adroddiad yma, yn enwedig y prif gynnig bod y Gronfa’n targedu allyriadau carbon net sero erbyn 2045 (yn hytrach na 2050) gyda 50% o ostyngiad carbon yn y portffolio erbyn 2030.

 

Fe atgoffodd Mr Latham y Pwyllgor mai prif amcanion y Gronfa oedd sicrhau bod digon o arian ar gael i dalu budd-daliadau ac i gynorthwyo cyflogwyr i wneud y costau yma’n fforddiadwy.  Caiff hyn ei wneud drwy fanteisio ar enillion buddsoddi, gan mai dyletswydd ymddiriedol y Gronfa yw gwneud hynny.  Serch hynny, fe eglurodd y gellir gwneud hyn yn gyfrifol, heb gyfaddawdu ar yr enillion, drwy ystyried ffactorau ESG a materion ariannol eraill megis chwyddiant a risg cyfraddau llog.

 

Fe ychwanegodd Mr Latham y byddai’r Gronfa angen diweddaru’r Datganiad Strategaeth Fuddsoddi (‘ISS’) i adlewyrchu’r ymrwymiadau i uchelgais sero net ac ymgynghori gyda chyflogwyr yngl?n â’r diweddariadau arfaethedig yn unol â’r rheoliadau.  Yn amodol ar gytuno ar y cynigion yn yr adroddiad, bydd y Gronfa yn lansio ymgynghoriad cyflogwr yn y Cyd-gyfarfod Ymgynghorol Blynyddol  ym mis Tachwedd. Roedd yn credu y dylai’r Gronfa fod yn ystyried buddsoddi pan roedd yna lwybr trosiannol clir i ffwrdd o asedau sy’n ddwys o ran carbon ac fe ddylai fod yn edrych ar reoli amlygrwydd i asedau allai gael eu heffeithio’n negyddol neu’n colli gwerth oherwydd trawsnewid i garbon isel.

 

            Roedd y Gronfa hefyd wrthi’n trafod gyda WPP dros greu is-gronfa ecwiti byd-eang cynaliadwy, ond fe allai hyn gymryd 12 mis arall i’w greu.

 

            Cyflwynodd Mr Latham Mr Gaston a fyddai’n arwain y Pwyllgor drwy’r dadansoddiad.

 

Fe aeth Mr Gaston drwy gyflwyniad gan egluro’r cynigion, gan dynnu sylw at y prif bwyntiau canlynol:

 

-       Pwrpas y dadansoddiad oedd helpu i osod targedau sero net y Gronfa ac i edrych yn fwy manwl ar y portffolio ecwiti a restrir i osod targedau gronynnog dros dro i helpu i leihau dwysedd carbon.

-       Y cynnig oedd y byddai’r Gronfa yn cefnogi cynhesu cyfyngedig i o dan 2oC, yn unol â Chytundeb Paris.  Roedd disgwyl i ddifrod corfforol, yn enwedig senarios o dan 3oC a 4oC danseilio enillion buddsoddiad y Gronfa.

-       Fel Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, roedd y Gronfa cael ei chraffu o ystyried y lefel uchel o dryloywder, bydd budd-ddeiliaid ehangach ac aelodau eisiau gwybod beth mae’r Gronfa’n ei wneud i leihau risg hinsawdd.

-       Roedd technoleg (megis cost is technolegau adnewyddadwy) a datblygiadau yn y farchnad (megis marchnadoedd yn gwobrwyo cwmnïau cynaliadwy dros gwmnïau sy’n seiliedig ar danwydd ffosil) yn golygu bod risgiau a chyfleoedd trawsnewid carbon isel yn berthnasol i’r gronfa heddiw ac i’r dyfodol.

-       Roedd tudalen 244 yn amlinellu fframwaith Dadansoddiad ar gyfer Trawsnewid Hinsawdd Mercer. Roedd y dadansoddiad yn dangos rhaniad y portffolio rhwng y cwmnïau llwyd (cwmnïau dwys o ran carbon, cwmnïau â photensial newid isel), y cwmnïau gwyrdd (cwmnïau dwysedd isel a chwmnïau â photensial newid uchel) a’r cwmnïau yn y canol (cwmnïau amrywiol o ran dwysedd carbon a photensial  ...  view the full Cofnodion text for item 31