Mater - cyfarfodydd
Audit Wales review of Town Centre Regeneration
Cyfarfod: 16/11/2021 - Cabinet (eitem 72)
72 Adolygiad Archwilio Cymru o Adfywio Canol Trefi PDF 103 KB
Pwrpas: Ystyried prif argymhellion adolygiad Archwilio Cymru o Adfywio Canol Trefi ac ymateb y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Audit Wales review of Town Centre Regeneration, eitem 72 PDF 5 MB
- Gweddarllediad ar gyfer Adolygiad Archwilio Cymru o Adfywio Canol Trefi
Cofnodion:
Cyflwynodd Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yr adroddiad ac eglurodd fod Archwilio Cymru wedi cyhoeddi adolygiad o adfywio canol trefi fis Medi 2021. Mae’r adroddiad yn nodi argymhellion i bob lefel o lywodraeth ymateb iddynt ac, yn unol â phrotocol y Cyngor, mae’r ymatebion ffurfiol yn cael eu cyflwyno i’r system bwyllgora cyn eu cyflwyno i Archwilio Cymru.
Mae’r adroddiad yn nodi chwe argymhelliad, ac mae gofyn i’r llywodraeth leol ymateb i dri ohonynt. Mae'r ymateb i bob argymhelliad wedi’i nodi yn yr adroddiad.
Cafodd yr adroddiad ei gyflwyno i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi ar 9 Tachwedd 2021, gyda’r Cabinet yn ei ystyried ar 16 Tachwedd a’r Pwyllgor Archwilio yn ei ystyried ar 17 Tachwedd.
PENDERFYNWYD:
Nodi argymhellion Archwilio Cymru a chymeradwyo’r ymateb arfaethedig.