Mater - cyfarfodydd

Funding, Flight-Path and Risk Management Framework

Cyfarfod: 10/11/2021 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 30)

30 Fframwaith Rheoli Risg, Llwybr Hedfan a Chyllid pdf icon PDF 108 KB

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau’r Pwyllgor ar y sefyllfa cyllido, a gweithrediad y fframwaith rheoli risg a llwybr hedfan.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd Mr Middleman bod y sefyllfa ariannol wedi gwella rhywfaint ers diwedd mis Medi oherwydd perfformiad cryf yr asedau.  Roedd y prif bryder yn ymwneud â rhwystrau chwyddiant, allai gael effaith andwyol ar y sefyllfa ariannol, ond ar y cyfan, roedd y Gronfa’n parhau mewn sefyllfa gadarnhaol ac o flaen ei darged oherwydd ei berfformiad cryf.

 

            Tynnodd Mr Hibbert sylw at y drafodaeth mewn cyfarfod blaenorol y dylai’r Gronfa gyrraedd trothwy lefel cyllid 110%, yna fe fyddai yna ymgysylltu gyda’r Pwyllgor.  Fe nododd Mr Middleman hyn a chadarnhaodd nad oedd y Gronfa wedi cyrraedd lefel cyllid 110% eto.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am eglurhad am y term ‘rhwystrau’ (headwinds). Cadarnhaodd Mr Middleman bod hyn yn golygu risg chwyddiant cynyddol. Fel y soniwyd yn genedlaethol, bu cynnydd yn chwyddiant y DU dros y misoedd diwethaf oherwydd pryderon amrywiol yn cynnwys problemau cyflenwi, prisiau ynni ac ati.  Nid oedd hi’n amlwg a oedd hyn yn mynd i fod yn broblem tymor byr neu dymor hir.  Petai chwyddiant yn cynyddu, byddai hyn yn golygu cynnydd mewn gwerth yn rhwymedigaethau’r Gronfa (gan fod pensiynau'n gysylltiedig â chwyddiant CPI), oni bai bod yr asedau’n perfformio’n fwy cryf i gyflawni’r un enillion yn uwch na chwyddiant. Os hynny fe fyddai yna ddirywiad yn y sefyllfa.  Cadarnhaodd Mr Middleman fod gan y Gronfa elfen o amddiffyniad yn erbyn chwyddiant o fewn y strategaeth llwybr hedfan.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r Fframwaith Rheoli Risg, Llwybr Hedfan a Chyllid.