Mater - cyfarfodydd
North Wales Population Needs Assessment
Cyfarfod: 15/02/2022 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 95)
95 Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru ac Adroddiad Sefydlogrwydd y Farchnad PDF 115 KB
Pwrpas: Darparu trosolwg o Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru 2022 sydd wedi’i gynhyrchu fel gofyniad y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - North Wales Population Needs Assessment, eitem 95 PDF 3 MB
- Appendix 2 - Reference Table, eitem 95 PDF 636 KB
- Appendix 3 - Map of evidence, eitem 95 PDF 3 MB
- Appendix 4 - North Wales Population Assessment Consultation Document, eitem 95 PDF 995 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru ac Adroddiad Sefydlogrwydd y Farchnad
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad i ddarparu trosolwg o Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru 2022 a baratowyd fel un o ofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Roedd yr Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru yn ofyniad statudol ac roedd yn asesiad o anghenion gofal a chymorth y boblogaeth ac anghenion cymorth gofalwyr ledled Gogledd Cymru. Arweiniwyd y gwaith o baratoi’r adroddiad gan wasanaethau Gofal Cymdeithasol a Llesiant Gogledd Cymru, ar y cyd â gwybodaeth gan chwe Chyngor y Gogledd a'r Bwrdd Iechyd. Rhaid i'r adroddiad gael ei gymeradwyo gan yr holl bartneriaid cyn cael ei gyhoeddi ar 1 Ebrill 2022.
Hefyd ym Mehefin 2022 rhaid cyhoeddi adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad Ranbarthol a oedd yn dilyn o'r Asesiad Anghenion Poblogaeth ac yn darparu asesiad o ba mor ddigonol yw’r gofal a’r gefnogaeth wrth ddiwallu anghenion a galw am ofal cymdeithasol. Gyda'i gilydd, dylai'r ddwy ddogfen helpu’r rhai sy’n comisiynu gofal a chymorth i ddeall yn llawn y galw a'r ddarpariaeth ar hyn o bryd a’r hyn a ragwelir. Byddai cam nesaf y prosiect yn cynnwys defnyddio’r asesiad o anghenion Poblogaeth i ddatblygu cynllun ardal ar gyfer y rhanbarth a baratoir ac a gyhoeddir yn 2023.
Wrth gynnig ac eilio’r argymhellion, siaradodd y Cynghorydd Christine Jones a'r Cynghorydd Hilary McGuill i gefnogi'r adroddiad cynhwysfawr a diolchodd i Emma Murphy a Katrina Shankar am eu gwaith yn casglu’r wybodaeth at ei gilydd.
Talodd y Cynghorydd Chris Bithell deyrnged i'r swyddogion oedd wedi cyfrannu at yr adroddiad gan wneud sylw am y nifer o ymatebion a gafwyd gan drigolion, staff a sefydliadau partner Sir y Fflint a oedd yn galonogol. Gwnaeth sylwadau hefyd ar y tueddiadau o ran y boblogaeth yn y dyfodol yr oedd yn teimlo y byddai'n heriol a'r goblygiadau ar gyfer cyllid yn y dyfodol i ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol ar gyfer poblogaeth sy'n heneiddio.
Diolchodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) i'r Aelodau am y sylwadau gan ddweud y byddai'n trosglwyddo'r diolch gan Aelodau i'r swyddogion. Cytunodd â phryderon y Cynghorydd Bithell ynghylch poblogaeth sy'n heneiddio ac eglurodd fod dogfennau fel yr un a gyflwynwyd yn caniatáu i'r Cyngor baratoi ar gyfer datblygu tai gofal ychwanegol a darpariaeth gofal mewnol i bobl h?n.
Ar ôl i’r argymhellion gael eu cynnig a’u heilio, cynhaliwyd pleidlais a chafodd yr argymhellion eu pasio.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod yr Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru yn cael ei gefnogi; a
(b) Bod y broses ar gyfer cymeradwyo Adroddiad Sefydlogrwydd y Farchnad Ranbarthol, fel yr amlinellir yn yr adroddiad, yn cael ei gymeradwyo.