Mater - cyfarfodydd
Active Travel Network Map - outcome of the formal consultation
Cyfarfod: 07/12/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 45)
45 Map Rhwydwaith Teithio Llesol - canlyniad yr ymgynghori ffurfiol PDF 120 KB
Pwrpas: Derbyn canlyniadau’r ymgynghoriad ffurfiol ar Fapiau Rhwydwaith Integredig y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Integrated Network Maps, eitem 45 PDF 112 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Map Rhwydwaith Teithio Llesol - canlyniad yr ymgynghori ffurfiol
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) adroddiad ar ganlyniadau ymarferion ymgynghori anffurfiol a ffurfiol er mwyn galluogi gwneud y diweddariadau angenrheidiol i Fap Rhwydwaith Teithio Llesol y Cyngor fel sy’n ofynnol dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013.
Wrth gyflwyno’r adroddiad, talodd y Prif Swyddog deyrnged i’r tîm am eu gwaith yn asesu ac yn ymchwilio’r llwybrau Teithio Llesol. Roedd teclyn mapio newydd a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru, Commonplace, wedi helpu i gynyddu ymgysylltiad cyhoeddus yn ystod y pandemig ac roedd y ddolen ar agor i adolygu mapiau.
Byddai’r Prif Swyddog yn ymgysylltu ar wahân â'r Cynghorydd Joe Johnson mewn perthynas â llwybr penodol.
Diolchodd y Cynghorydd Glyn Banks i’r tîm am eu gwaith ac anogodd Aelodau i ddefnyddio'r ddolen i adolygu’r wybodaeth ar y we cyn i'r map terfynol gael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Rhagfyr.
Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Paul Shotton a Joe Johnson.
PENDERFYNWYD:
(a) Cefnogi’r gwaith a wnaed i gwblhau'r broses ymgynghori statudol a’r broses anffurfiol fel ei gilydd; a
(b) Cydnabod yn ffurfiol ddilysrwydd y broses a ddilynwyd i gynhyrchu Map Rhwydwaith Teithio Llesol diweddaredig y Cyngor i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Rhagfyr 2021.