Mater - cyfarfodydd

Mid-year Performance Indicators for Recovery, Portfolio and Public Accountability Measures

Cyfarfod: 03/02/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 44)

44 Dangosyddion Perfformiad Hanner Blwyddyn ar gyfer Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus, Portffolio ac Adfer pdf icon PDF 110 KB

Dangosyddion Perfformiad Hanner Blwyddyn ar gyfer Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus, Portffolio ac Adfer.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol a nodwyd yng Nghynllun y Cyngor.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Dave Mackie ar y fenter bwyd am ddim, cadarnhaodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) fod hwn yn anghysonder yn yr adroddiad a bod y ddwy eitem yn bethau ar wahân. Esboniodd fod brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd yn cael ei dargedu at ddisgyblion a oedd yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim, a’r gobaith oedd y byddai 100% o’r ysgolion yn darparu’r cynnig hwn. Oherwydd y pandemig a’r trefniadau ar gyfer darparu prydau yn ystod Covid, roedd wedi bod yn heriol iawn oherwydd y mesurau diogelwch a oedd yn eu lle a’r ffaith nad oedd ystafelloedd bwyta yn gweithredu yn ôl eu harfer. O ran y ffrwythau am ddim, roedd y cynllun hwn yn cael ei ddarparu gan NEWydd drwy’r Strategaeth Dlodi i ysgolion a chytunwyd i aralleirio’r testun yn ymwneud â’r amcan hwnnw.

 

Cafodd yr argymhelliad, fel y’i amlinellwyd yn yr adroddiad, ei gynnig gan y Cynghorydd Paul Cunningham, a’i eilio gan y Cynghorydd Joe Johnson. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.