Mater - cyfarfodydd

Council Plan 2021-22 Mid-Year Performance Reporting

Cyfarfod: 08/12/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau (eitem 33)

33 Cynllun y Cyngor 2021-22 Monitro Canol Blwyddyn pdf icon PDF 110 KB

Pwrpas:        Adolygu’r lefelau cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau a lefelau perfformiad fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad monitro canol blwyddyn i adolygu cynnydd yn erbyn eu blaenoriaethau perthnasol fel y’u nodwyd ym Mesurau Adrodd 2020/21 y Cyngor, o dan gylch gorchwyl y Pwyllgor.  Roedd 73% o ddangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu fynd y tu hwnt i’w targed.

 

Roedd yr adroddiad yn un ar sail eithriadau ac yn canolbwyntio ar danberfformio ar y targedau.  Roedd un maes o fewn cylch gwaith y Pwyllgor fel ag amlinellir yn adran 1.07 o’r adroddiad.   Rhoddodd y Prif Weithredwr wybod bod rhestr o eiddo yn y system nad oedd wedi’u darparu eto.   Roedd y rhain wedi’u hoedi oherwydd sefyllfaoedd economaidd ac amodau cynllunio a oedd wedi arafu’r rhaglen.   Roedd cynlluniau y tu ôl i’r rhain a fyddai’n dod i’r Pwyllgor i dynnu sylw at yr hyn oedd yn digwydd o ran y rhaglen adeiladu newydd.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Veronica Gay os oedd yn bosibl i’r seren liwiedig gael ei dynnu a’i ddisodli â’r geiriau Coch, Oren a Gwyrdd yn yr atodiad ar gyfer adroddiadau’r dyfodol gan ei fod yn anodd gwahaniaethu rhwng y lliwiau gwahanol yn y pecynnau Agenda.   Cytunodd yr Hwylusydd i adrodd hwn yn ôl i’r Tîm Perfformiad.

 

Cafodd yr argymhelliad o fewn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Geoff Collett a’i eilio gan y Cynghorydd Ron Davies. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.

 

            Cyn dod â’r cyfarfod i ben, dywedodd y Prif Weithredwr bod yr Uwch Reolwr Tai ac Asedau yn gadael y gwasanaeth.   Bu iddo ddiolch iddo am yr holl waith yr oedd wedi’i wneud a’r cyfraniad yr oedd wedi’i wneud i’r Gwasanaeth Tai.  Bu i’r Pwyllgor ddymuno’n dda i’r Uwch Reolwr Tai ac Asedau i’r dyfodol.

 

                        Bu i’r Uwch Reolwr Tai ac Asedau ddiolch i’r Prif Weithredwr a’r Pwyllgor am eu sylwadau.   Dywedodd ei fod yn gwerthfawrogi’r trafodaethau a’r berthynas yr oedd ganddo gyda’r Aelodau a’i gydweithwyr a oedd wedi bod yn arbennig ac roedd yn teimlo fod Sir y Fflint mewn lle gwych i symud ymlaen a pharhau i wella.