Mater - cyfarfodydd

Disabled Facilities Grant Policy

Cyfarfod: 16/11/2021 - Cabinet (eitem 66)

66 Polisi Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl pdf icon PDF 97 KB

Pwrpas:        Bod y Cabinet yn cefnogi’r adroddiad a’r Polisi Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl diwygiedig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad ac eglurodd fod Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 yn rhoi dyletswydd orfodol ar Awdurdodau Lleol i ddarparu Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl. Mae’r grant ar gael i addasu neu ddarparu cyfleusterau i unigolion anabl mewn annedd.

 

            Fel rhan o adolygiad Archwilio Mewnol o wasanaeth y Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl fis Mehefin 2018, nodwyd fod angen adolygu’r polisi presennol er mwyn gwneud y broses a'r manylion yn gliriach ac yn haws eu deall.

 

            Ers hynny mae gwaith wedi’i wneud i nodi a gweithredu gwelliannau i’r broses er mwyn hwyluso’r ddarpariaeth ac ym mis Medi 2020 cyflwynwyd a chymeradwywyd argymhellion ar gyfer eithriadau i’r polisi sydd, erbyn hyn, wedi’u cynnwys yn y polisi diwygiedig.

 

            Eglurodd y Rheolwr Budd-Daliadau fod llawer o waith hefyd wedi’i wneud i sicrhau bod cwsmeriaid, a gweithwyr proffesiynol sydd yn eu cefnogi, yn derbyn yr holl wybodaeth berthnasol ar y cyfle cyntaf posibl. Mae’r gwaith hwnnw wedi’i adlewyrchu yn y polisi diwygiedig. Eglurodd mai’r grant mwyaf sydd ar gael yng Nghymru yw £36,000 fesul bob cais a wneir o fewn cyfnod o bum mlynedd. Fodd bynnag, mae modd cyflwyno ceisiadau eraill o fewn y cyfnod hwnnw os yw cyflwr y cwsmer wedi newid. O ran ceisiadau ar gyfer gwaith addasu dan £10,000, nid oes ar yr achosion canolig hyn angen prawf modd bellach. Ar gyfer yr holl geisiadau eraill, byddai swm y grant yn amrywio o sero i’r uchafswm yn dibynnu ar gost y gwaith a gymeradwywyd ac amgylchiadau ariannol yr ymgeisydd.

 

Croesawodd y Cynghorydd Bithell yr amserlenni diwygiedig ar gyfer darparu addasiadau fel y nodir yn yr atodiad.

                       

PENDERFYNWYD:

 

Cefnogi’r adroddiad a’r Polisi Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl diwygiedig.