Mater - cyfarfodydd

North Wales Councils - Regional Emergency Planning Service (NWC-REPS) - Annual Report 2020/21

Cyfarfod: 13/01/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 70)

70 Gwasanaeth Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau Gogledd Cymru (NWC-REPS) - Adroddiad Blynyddol 2020/21 pdf icon PDF 89 KB

Pwrpas:        Cael Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau Gogledd Cymru ar gyfer 2020/21.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad blynyddol y Gwasanaeth Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol ar gyfer 2020/21 sy’n amlinellu gweithgareddau a wnaed yn lleol a rhanbarthol i fodloni dyletswyddau deddfwriaethol.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Rhanbarthol drosolwg o’r prif feysydd gwaith yn ystod y cyfnod a oedd yn canolbwyntio ar yr ymateb aml-asiantaeth i’r pandemig Covid-19.   Cafodd diweddariad ar weithgareddau lleol ei rannu hefyd, yn cynnwys effeithiolrwydd y Tîm Ymateb i Reoli Argyfwng ac adolygu Cynlluniau Parhad Busnes i gefnogi parhad gwasanaethau critigol yn ystod y pandemig.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Haydn Bateman, rhoddodd y Rheolwr Rhanbarthol eglurhad ar drefniadau diogelwch a chyfrifoldebau mewn perthynas â’r gwneuthurwr cemegol lleol, Synthite.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Richard Jones at ymweliad safle i ystafell rheoli’r Heddlu ychydig o flynyddoedd yn ôl a gofynnodd am y posibilrwydd o gael ymweliad yn y dyfodol.   Er nad oedd hyn yn bosibl yn ystod y pandemig, dywedodd y Prif Weithredwr bod modd cynnal ymweliad safle yn y dyfodol pan fydd hi’n ddiogel gwneud hynny a gyda phwrpas clir.   Gofynnodd i’r Rheolwr Rhanbarthol nodi’r cais fel y gellir ei ystyried ar adeg briodol.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Paul Shotton ac Arnold Woolley.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Bod y Pwyllgor yn cael sicrwydd yn sgil y diweddariad; a

 

(b)          Bod y Pwyllgor yn derbyn adroddiadau am barodrwydd y Cyngor i gynllunio rhag argyfyngau ac adroddiadau dilynol penodol am unrhyw ddigwyddiadau argyfwng lleol neu ranbarthol mawr y bu’n rhaid i’r Cyngor ymateb iddynt.