Mater - cyfarfodydd
North Wales Councils - Regional Emergency Planning Service (NWC-REPS) - Annual Report 2020/21
Cyfarfod: 13/01/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 70)
Pwrpas: Cael Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau Gogledd Cymru ar gyfer 2020/21.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - NWCREPS Annual Report 2020/21, eitem 70 PDF 7 MB
- Gweddarllediad ar gyfer Gwasanaeth Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau Gogledd Cymru (NWC-REPS) - Adroddiad Blynyddol 2020/21
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad blynyddol y Gwasanaeth Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol ar gyfer 2020/21 sy’n amlinellu gweithgareddau a wnaed yn lleol a rhanbarthol i fodloni dyletswyddau deddfwriaethol.
Rhoddodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Rhanbarthol drosolwg o’r prif feysydd gwaith yn ystod y cyfnod a oedd yn canolbwyntio ar yr ymateb aml-asiantaeth i’r pandemig Covid-19. Cafodd diweddariad ar weithgareddau lleol ei rannu hefyd, yn cynnwys effeithiolrwydd y Tîm Ymateb i Reoli Argyfwng ac adolygu Cynlluniau Parhad Busnes i gefnogi parhad gwasanaethau critigol yn ystod y pandemig.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Haydn Bateman, rhoddodd y Rheolwr Rhanbarthol eglurhad ar drefniadau diogelwch a chyfrifoldebau mewn perthynas â’r gwneuthurwr cemegol lleol, Synthite.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Richard Jones at ymweliad safle i ystafell rheoli’r Heddlu ychydig o flynyddoedd yn ôl a gofynnodd am y posibilrwydd o gael ymweliad yn y dyfodol. Er nad oedd hyn yn bosibl yn ystod y pandemig, dywedodd y Prif Weithredwr bod modd cynnal ymweliad safle yn y dyfodol pan fydd hi’n ddiogel gwneud hynny a gyda phwrpas clir. Gofynnodd i’r Rheolwr Rhanbarthol nodi’r cais fel y gellir ei ystyried ar adeg briodol.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Paul Shotton ac Arnold Woolley.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cael sicrwydd yn sgil y diweddariad; a
(b) Bod y Pwyllgor yn derbyn adroddiadau am barodrwydd y Cyngor i gynllunio rhag argyfyngau ac adroddiadau dilynol penodol am unrhyw ddigwyddiadau argyfwng lleol neu ranbarthol mawr y bu’n rhaid i’r Cyngor ymateb iddynt.