Mater - cyfarfodydd

Employment and Workforce Mid-year Update

Cyfarfod: 17/11/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 46)

46 Diweddariad Canol Blywddyn Cyflogaeth a Gweithlu pdf icon PDF 109 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys diweddariadau strategol yn ogystal ag ystadegau chwarterol y gweithlu a dadansoddiad ohonynt.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Cydymffurfio a Gwybodaeth Busnes adroddiad diweddaru canol blwyddyn ar ystadegau a dadansoddiad y gweithlu ar gyfer 2022/23, gan gynnwys cyfrif pennau, trosiant gweithwyr a phresenoldeb.

 

Roedd trosolwg o feysydd allweddol yn cydnabod y pwysau ar weithlu cenedlaethol fel y gwelwyd ar draws y portffolios ac roedd gwaith yn cael ei wneud i fynd i’r afael â heriau mewn recriwtio a chadw staff o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol.  Y prif reswm dros absenoldebau a adroddwyd oedd iechyd meddwl a atgoffwyd pawb am yr ystod o gymorth oedd ar gael i weithwyr.  Roedd diweddariad ar wariant gweithwyr asiantaeth yn adlewyrchu’r galw cynyddol ar gyfer rolau arbenigol a chydweithio i ddatblygu dull cyfun ar gyfer recriwtio a chadw gweithwyr.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Chris Dolphin, rhoddodd yr Uwch Reolwr (Diogelu a Chomisiynu) wybodaeth ar gysylltiadau’r Cyngor gyda ADSS Cymru a threfniadau o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol i flaenoriaethu gwaith yn seiliedig ar risg, yn arbennig o ystyried y cynnydd cenedlaethol sylweddol yn nifer yr ymchwiliadau amddiffyn plant.

 

Ar ôl cwestiwn gan y Cadeirydd, dywedodd yr Ymgynghorydd Cydymffurfio a Gwybodaeth Busnes fod gwariant asiantaeth cronnus yn cynyddu o un flwyddyn i'r llall am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad ac roedd hyn yn cael ei fonitro yn agos.  Cytunodd i ddarparu manylion pellach ar ddadansoddiad patrymau yn dyddio’n ôl i 2019.

 

Ar y sail honno, cynigiodd y Cynghorydd Bernie Attridge yr argymhellion, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Bill Crease.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Adroddiad Gwybodaeth y Gweithlu Canol Blwyddyn ar gyfer 2022/23; a

 

(b)       Bod manylion pellach yn cael eu rhannu ar y cynnydd mewn gwariant asiantaeth cronnus dros y tair blynedd ddiwethaf.