Mater - cyfarfodydd
Housing Rent Income - Audit Wales
Cyfarfod: 17/11/2021 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 33)
33 Incwm Rhent Tai - Archwilio Cymru PDF 92 KB
Cydnabod Adroddiad Archwilio Cymru a nodi’r argymhellion ar y casgliad o ddata ychwanegol ac adroddiad perfformiad.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Audit Wales report, eitem 33 PDF 837 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Incwm Rhent Tai - Archwilio Cymru
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Refeniw a Chaffael adroddiad ar ganfyddiadau adolygiad gan Archwilio Cymru ar incwm rhent tai a gomisiynwyd gan y Cyngor oherwydd y risgiau strategol sy'n deillio o’r cynnydd mewn ôl-ddyledion rhent a newidiadau i Gredyd Cynhwysol. Roedd y Cabinet a Phwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol wedi derbyn yr adroddiad a’i argymhellion yn rhan o’r protocol oedd wedi’i gytuno ar gyfer adroddiadau rheoleiddio allanol.
Roedd yr adroddiad yn cydnabod lefel y gwaith a wnaed ar draws y Cyngor i sefydlogi’r cynnydd mewn ôl-ddyledion rhent erbyn Mawrth 2020 ac roedd yn gwneud dau fân argymhelliad i gryfhau’r trefniadau presennol i gefnogi tenantiaid ac adrodd yn ychwanegol ar berfformiad ar lefelau diddymu dyledion a dyledion cyn-denantiaid. Roedd cynnydd ar fynd o ran rhoi camau gweithredu ar waith trwy gyflwyno panel adolygu i reoli achosion cymhleth a buddsoddi mewn technoleg newydd.
Pan ofynnodd Sally Ellis yngl?n â chamau i wella cymorth i denantiaid, dywedodd y Rheolwr Refeniw a Chaffael bod gweithredu’n fwy cydlynol gan gynnwys gwahanol dimoedd eisoes yn effeithiol i dargedu ymyraethau. O ran meincnodi, siaradodd am ran y Cyngor mewn mentrau cenedlaethol i gymharu perfformiad gydag awdurdodau eraill.
O ran cymharu â’r adroddiad Archwilio Cymru arall oedd ar y rhaglen, eglurodd Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg nad oedd manylion am gamau gweithredu wedi’u cynnwys yn yr adroddiad hwn oherwydd amseriad y cylch adrodd, ond roedd disgwyl y byddai cynllun gweithredu gydag adroddiadau Archwilio Cymru yn y dyfodol i roi sicrwydd o’r ymateb a’r camau cysylltiedig.
Yn dilyn sylwadau Allan Rainford am ddefnyddio data ystyrlon i feincnodi, dywedodd y swyddogion y byddai systemau’r Cyngor yn gwella ac yn symleiddio casglu data.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Janet Axworthy a Joe Johnson.
Croesawai’r Pwyllgor ganfyddiadau gwaith archwilio ar ymarfer paru data am grantiau Covid-19 a rannwyd gan y tîm Refeniw yn ystod y pandemig oedd heb ddod o hyd i unrhyw daliadau wedi’u dyblu.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad.