Mater - cyfarfodydd
Asset Disposal and Capital Receipts Generated 2020/21
Cyfarfod: 17/11/2021 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 36)
36 Gwarediad Asedau a Derbyniadau Cyfalaf a Gynhyrchwyd 2020/21 PDF 147 KB
Hysbysu Aelodau o Warediadau Asedau 2020/21.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Asset Disposals 2020/21, eitem 36 PDF 83 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Gwarediad Asedau a Derbyniadau Cyfalaf a Gynhyrchwyd 2020/21
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad blynyddol a oedd yn crynhoi tir oedd wedi’i waredu a derbyniadau cyfalaf a gafwyd yn ystod 2020/21 a chymhariaeth â blynyddoedd blaenorol. Roedd derbyniadau cyfalaf wedi’u halinio i gyfrannu at raglen y Cyngor o gynlluniau cyfalaf ar draws pob portffolio. Amlygwyd goblygiadau refeniw o wariant cyfalaf, a’r lleihad parhaus o ran cefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwariant cyfalaf.
Ar gais Allan Rainford, rhoddodd y Rheolwr Cyllid Strategol eglurhad am y broses gadarn i adolygu asedau a chymeradwyo cael gwared â rhai, a’r trefniant rhwng yr Adran Gyllid a’r Adran Brisio ac Ystadau i adolygu derbyniadau cyfalaf. Dywedodd hefyd fod rhagdybiaethau at y dyfodol am waredu asedau’n ffurfio rhan o’r gwaith ar y Cynllun Rheoli Asedau.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Arnold Woolley a Patrick Heesom.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad.