Mater - cyfarfodydd
North Wales Population Needs Assessment and Market Stability Report
Cyfarfod: 20/01/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 60)
60 Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru ac Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad PDF 115 KB
Pwrpas: Darparu trosolwg o Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru 2022 sydd wedi cael ei lunio fel gofyniad gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Draft NWales Population Needs Assessment, eitem 60 PDF 4 MB
- Enc. 2 - Engagement report, eitem 60 PDF 980 KB
- Enc. 3 - Governance structure, eitem 60 PDF 108 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru ac Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad
Cofnodion:
Yn gyntaf bu i’r Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) ddiolch i Emma Murphy a Katrina Shanka am greu’r adroddiad a oedd yn ofyniad yn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 ar Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru 2022 sy’n asesu anghenion gofal a chymorth y boblogaeth ac anghenion cymorth gofalwyr ar draws Gogledd Cymru. Dywedodd y byddai’r adroddiad hwn yn cael ei ddefnyddio i lywio datblygiadau gwasanaeth mewn blynyddoedd i ddod.
Eglurodd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu bod y ddogfen wedi bod drwy’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol cyn dod i’r Pwyllgor hwn ac y byddai wedyn yn mynd i Bwyllgor Prif Weithredwr y Bwrdd Iechyd. Pwysleisiodd bod amserlenni wedi bod yn dynn oherwydd effaith y pandemig a bod disgwyl iddo gael ei gyhoeddi ym mis Ebrill. Dywedodd bod yr adborth wedi bod yn gadarnhaol iawn a bod y ddogfen wedi’i groesawu.
Rhoddodd y Swyddog Cynllunio a Datblygu - Plant a Gweithlu sicrwydd i’r Aelodau nad oedd y ddogfen wedi’i seilio ar ganlyniadau’r arolwg ar-lein yn unig ond ei fod o gyfoeth o adroddiadau a staff gwybodus yn ogystal ag ymgynghoriadau a gynhaliwyd dros y 5 mlynedd diwethaf.
Cytunodd y Cadeirydd a’r Pwyllgor ei fod yn ddogfen ardderchog a fyddai’n cael ei ddefnyddio’n dda fel dogfen gyfeirio.
Cynigiwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Gladys Healey a’u heilio gan y Cynghorydd Dave Mackie.
PENDERFYNWYD:
(a)
Bod Aelodau yn cefnogi
Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru, cyn ei gyflwyno
i’r Cyngor Llawn ym mis Chwefror 2022 a
(b) Bod Aelodau yn cefnogi’r broses ar gyfer cymeradwyo’r Adroddiad Sefydlogrwydd y Farchnad Ranbarthol a derbyn adroddiad gwybodaeth pan fydd ar gael.