Mater - cyfarfodydd
Chief Officer, Team Capacity
Cyfarfod: 19/10/2021 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 51)
Prif Swyddog, Gallu’r Tîm
Pwrpas: Ceisio cymeradwyaeth yr aelodau i nifer o newidiadau i’r model gweithredu presennol
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2 , View reasons restricted (51/2)
- Restricted enclosure 3 , View reasons restricted (51/3)
- Restricted enclosure 4 , View reasons restricted (51/4)
- Gweddarllediad ar gyfer Prif Swyddog, Gallu’r Tîm
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i geisio cymeradwyaeth ar gyfer nifer o newidiadau i’r model gweithredu presennol. Rhoddodd wybodaeth gefndir ac fe soniodd am y prif ystyriaethau, fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.
Rhoddodd y Darpar Brif Weithredwr (Prif Swyddog, Tai ac Asedau) drosolwg o’r sefyllfa bresennol a gallu yn y portffolio Tai ac Asedau, ac fe adroddodd am y cynigion a awgrymir.
Gofynnwyd i Aelodau ystyried y cynigion fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.
Wrth gynnig y cynigion, siaradodd y Cynghorydd Ian Roberts i gefnogi’r argymhellion. Rhoddodd y Cynghorydd Roberts deyrnged i’r Prif Weithredwr, Darpar Brif Weithredwr, ac aelodau’r Panel Recriwtio am eu gwaith diwyd. Eiliodd y Cynghorydd Billy Mullin y cynnig.
Siaradodd y Cynghorwyr Ian Dunbar a Chris Dolphin i gefnogi’r cynigion.
Dywedodd y Cynghorydd Mike Peers ei fod yn cefnogi’r cynigion yn rhannol, serch hynny, mynegodd nifer o bryderon a chynhigiodd bod yr argymhellion yn cael eu diwygio fel a ganlyn: bod Prif Swyddog yn cael ei b/phenodi ar gyfer portffolio Tai a Chymuned. Bod penodiad i’r swydd Rheolwr Corfforaethol - Rhaglenni Cyfalaf ac Asedau yn cael ei ohirio tan ar ôl Etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai 2022; a bod swyddog o’r tîm Tai ac Asedau presennol yn cael ei benodi am gyfnod dros dro yn y cyfamser. Eiliwyd y diwygiad gan y Cynghorydd Owen Thomas.
Siaradodd y Cynghorydd Ian Roberts i gefnogi’r cynnig a gyflwynwyd a diolchodd i Swyddogion am eu hymatebion manwl i’r cwestiynau a holwyd gan Aelodau ynghylch costau cyflog. Siaradodd y Cynghorydd Roberts yn erbyn y cynnig i ohirio swydd Rheolwr Corfforaethol - Rhaglenni Cyfalaf ac Asedau tan ar ôl mis Mai 2022.
Cymerwyd pleidlais ar y diwygiad a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Mike Peers uchod. Ni chafodd y diwygiad ei gario.
Gofynnwyd am bleidlais ar y cynnig gwreiddiol a gynhigiwyd gan y Cynghorydd Ian Roberts fel a ganlyn:
(a) Bod y cynnig ar gyfer (1) amnewid Prif Swyddog portffolio Tai a Chymuned a (2) swydd newydd ar gyfer Rheolwr Corfforaethol, Rhaglenni Cyfalaf ac Asedau yn cael ei gefnogi: a
(b) Bod Panel Penodiadau Aelodau presennol yn cael ei ail-alw i benodi i swydd Prif Swyddog newydd.
Cariwyd y cynnig.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y cynigion ar gyfer (1) Prif Swyddog newydd ar gyfer portffolio Tai a
Chymuned a (2) swydd newydd Rheolwr Corfforaethol - Rhaglenni Cyfalaf ac Asedau’n cael eu cymeradwyo; a
(b) Bod Panel Penodiadau Aelodau presennol yn cael ei ail-alw i benodi i swydd Prif Swyddog newydd.