Mater - cyfarfodydd

Chief Officer, Team Capacity

Cyfarfod: 19/10/2021 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 51)

Prif Swyddog, Gallu’r Tîm

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth yr aelodau i nifer o newidiadau i’r model gweithredu presennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i geisio cymeradwyaeth ar gyfer nifer o newidiadau i’r model gweithredu presennol.  Rhoddodd wybodaeth gefndir ac fe soniodd am y prif ystyriaethau, fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.  

 

Rhoddodd y Darpar Brif Weithredwr (Prif Swyddog, Tai ac Asedau) drosolwg o’r sefyllfa bresennol a gallu yn y portffolio Tai ac Asedau, ac fe adroddodd am y cynigion a awgrymir.   

 

Gofynnwyd i Aelodau ystyried y cynigion fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Wrth gynnig y cynigion, siaradodd y Cynghorydd Ian Roberts i gefnogi’r argymhellion.  Rhoddodd y Cynghorydd Roberts deyrnged i’r Prif Weithredwr, Darpar Brif Weithredwr, ac aelodau’r Panel Recriwtio am eu gwaith diwyd. Eiliodd y Cynghorydd Billy Mullin y cynnig.

 

Siaradodd y Cynghorwyr Ian Dunbar a Chris Dolphin i gefnogi’r cynigion.

 

Dywedodd y Cynghorydd Mike Peers ei fod yn cefnogi’r cynigion yn rhannol, serch hynny, mynegodd nifer o bryderon a chynhigiodd bod yr argymhellion yn cael eu diwygio fel a ganlyn: bod Prif Swyddog yn cael ei b/phenodi ar gyfer portffolio Tai a Chymuned. Bod penodiad i’r swydd Rheolwr Corfforaethol - Rhaglenni Cyfalaf ac Asedau yn cael ei ohirio tan ar ôl Etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai 2022; a bod swyddog o’r tîm Tai ac Asedau presennol yn cael ei benodi am gyfnod dros dro yn y cyfamser. Eiliwyd y diwygiad gan y Cynghorydd Owen Thomas.

 

Siaradodd y Cynghorydd Ian Roberts i gefnogi’r cynnig a gyflwynwyd a diolchodd i Swyddogion am eu hymatebion manwl i’r cwestiynau a holwyd gan Aelodau ynghylch costau cyflog. Siaradodd y Cynghorydd Roberts yn erbyn y cynnig i ohirio swydd Rheolwr Corfforaethol - Rhaglenni Cyfalaf ac Asedau tan ar ôl mis Mai 2022. 

 

Cymerwyd pleidlais ar y diwygiad a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Mike Peers uchod.   Ni chafodd y diwygiad ei gario.

 

Gofynnwyd am bleidlais ar y cynnig gwreiddiol a gynhigiwyd gan y Cynghorydd Ian Roberts fel a ganlyn:

 

(a)          Bod y cynnig ar gyfer (1) amnewid Prif Swyddog portffolio Tai a Chymuned a (2) swydd newydd ar gyfer Rheolwr Corfforaethol, Rhaglenni Cyfalaf ac Asedau yn cael ei gefnogi: a 

 

(b)          Bod Panel Penodiadau Aelodau presennol yn cael ei ail-alw i benodi i swydd Prif Swyddog newydd.

 

Cariwyd y cynnig.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Bod y cynigion ar gyfer (1) Prif Swyddog newydd ar gyfer portffolio Tai a 

Chymuned a (2) swydd newydd Rheolwr Corfforaethol - Rhaglenni Cyfalaf ac Asedau’n cael eu cymeradwyo; a

 

(b)          Bod Panel Penodiadau Aelodau presennol yn cael ei ail-alw i benodi i swydd Prif Swyddog newydd.