Mater - cyfarfodydd

Capital Strategy including Prudential Indicators 2022/23 - 2024/25

Cyfarfod: 11/11/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 53)

53 Strategaeth Gyfalaf yn Cynnwys Dangosyddion Darbodus 2022/23 - 2024/25 pdf icon PDF 260 KB

Pwrpas:        Cyflwyno’r Strategaeth Gyfalaf 2022/23 - 2024/25 ar gyfer ei adolygu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y Strategaeth Gyfalaf wedi’i diweddaru cyn ei chyflwyno i’r Cabinet.   Dogfen drosfwaol yw’r Strategaeth sy’n dwyn ynghyd nifer o strategaethau a pholisïau ac wedi’i rhannu’n nifer o adrannau sy’n cynnwys manylion Dangosyddion Darbodus y Cyngor ar gyfer 2022/23 - 2024/25.

 

Nid oedd unrhyw newidiadau arwyddocaol i’r strategaeth ers y flwyddyn flaenorol. Roedd crynodeb o’r Dangosyddion Darbodus allweddol yn cynnwys amcangyfrif o’r gwariant cyfalaf wedi’i gynllunio, ariannu cyfalaf a’r effaith ar yr Isafswm Darpariaeth Refeniw. Bydd y cynnydd bach a ddisgwylir yng nghyfran y costau ariannu i ffrydiau ariannu net yn parhau i gael ei fonitro.

 

Hysbyswyd y Cynghorydd Richard Jones bod y cynnydd a ragwelir yn yr Isafswm Darpariaeth Refeniw wedi digwydd o ganlyniad i newidiadau mewn polisi a benthyca o’r newydd yn Rhaglen Gyfalaf y dyfodol.  O ran dyled hirdymor, bydd yr adroddiad Rheoli’r Trysorlys a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn cael ei ddosbarthu i bob aelod.

 

Yngl?n â gweithgareddau masnachol, eglurodd y Prif Weithredwr yr ymdriniaeth o ran rheoli portffolio amaethyddol y Cyngor a gwaith i adolygu unedau diwydiannol i ddiwallu’r galw a newidiadau deddfwriaethol.

 

Myfyriodd y Cynghorydd Paul Johnson ynghylch rhai o'r newidiadau yn ystod y flwyddyn a diolchodd i'r swyddogion am yr adroddiad.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Geoff Collett a Mared Eastwood.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn argymell y Strategaeth Gyfalaf i’r Cabinet; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn argymell i’r Cabinet:-

 

·         Y Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2022/23 – 2024/25 fel y’u manylir yn Nhablau 1 a 4-7 o’r Strategaeth Gyfalaf, a

 

·         Bod y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yn cael awdurdod dirprwyedig i wneud symudiadau rhwng y terfynau y cytunwyd arnynt ar wahân, o fewn y terfyn awdurdodedig a gweithredol ar gyfer dyled allanol  (Tabl 6 y Strategaeth Gyfalaf).