Mater - cyfarfodydd
Capital Programme 2022/23 - 2024/25
Cyfarfod: 11/11/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 54)
54 Rhaglen Gyfalaf 2022/23 - 2024/25 PDF 586 KB
Pwrpas: Cyflwyno’r Rhaglen Gyfalaf 2022/23 - 2024/25 ar gyfer ei adolygu.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar y Rhaglen Gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2022/23 - 2024/25 a oedd yn nodi buddsoddiadau mewn asedau ar gyfer yr hirdymor i alluogi darparu gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel sy’n rhoi gwerth am arian, wedi’i rannu rhwng y tair adran: Statudol / Rheoleiddio, Asedau Wrth Gefn a Buddsoddiad.
Cafwyd cyflwyniad manwl yn ymwneud â'r meysydd canlynol:
· Strwythur - Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor
· Rhaglen Gyfredol 2020/21-2022/23
· Cyllid a Ragwelir 2022/23 - 2024/25
· Dyraniadau Arfaethedig – Statudol/ Rheoleiddiol, Asedau wrth Gefn a Buddsoddiad
· Crynodeb o’r Rhaglen wedi ei hariannu’n gyffredinol
· Cynlluniau sy’n cael eu hariannu’n benodol
· Crynodeb o’r Rhaglen Gyfalaf
· Cynlluniau posib ar gyfer y dyfodol
· Y camau nesaf
Yn unol â chais y Cynghorydd Paul Shotton, rhannodd y Prif Weithredwr a’r Prif Swyddog (Llywodraethu) wybodaeth ar welliannau arfaethedig i systemau ac offer TGCh y Cyngor.
Diolchodd y Cynghorydd Paul Johnson i’r swyddogion Cyllid am yr adroddiad manwl ac am eu holl waith caled.
Croesawodd y Cynghorydd Ian Roberts y buddsoddiad mewn adeiladau ysgolion ar draws Sir y Fflint - rhai ohonynt am fod yn garbon niwtral, sy'n atgyfnerthu ymrwymiad y cyngor i gynnal darpariaeth ar draws amrywiaeth o wasanaethau cyhoeddus.
Holodd y Cynghorydd Richard Jones a ddylid dosbarthu gwaith ar adeiladau ysgolion, e.e. uwchraddio systemau awyru, materion iechyd a diogelwch ac archwiliadau diogelwch nwy/tân yn Statudol/Rheoleiddiol yn hytrach nag Asedau Argadwedig. Cytunodd y Rheolwr Cyllid Strategol y byddai hyn yn cael ei adolygu.
Cafodd yr argymhellion, a newidiwyd i adlewyrchu’r drafodaeth, eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Richard Jones a Paul Shotton.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn:
(a) Cefnogi’r dyraniadau a’r cynlluniau yn Nhabl 3 (paragraff 1.09) ar gyfer rhannau Statudol / Rheoleiddiol ac Asedau Argadwedig Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor 2022/23-2024/25 gan nodi y bydd swyddogion yn adolygu newidiadau posibl rhwng dyraniadau yn yr Asedau Argadwedig a'r adrannau Rheoleiddiol yn unol â'r cais.
(b) Cefnogi’r cynlluniau sydd wedi'u cynnwys yn Nhabl 4 (paragraff 1.29) ar gyfer adran Buddsoddi Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor 2022/23-2024/25;
(c) Yn nodi bod y diffyg mewn cyllid i ariannu cynlluniau yn 2022/23, 2023/24 a 2024/25 yn Nhabl 5 (paragraff 1.36) ar y pwynt hwn yn y broses gymeradwyo yn caniatáu hyblygrwydd. Bydd opsiynau’n cynnwys cyfuniad o dderbyniadau cyfalaf yn y dyfodol, grantiau eraill (os ydynt ar gael), benthyca fesul cam dros nifer o flynyddoedd yn cael eu hystyried yn ystod 2022/23, ac yn cael eu cynnwys mewn adroddiadau ar y Rhaglen Gyfalaf yn y dyfodol.
(d) Cymeradwyo’r cynlluniau yn Nhabl 6 (paragraff 1.44) ar gyfer adran a ariennir yn benodol Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor a fydd yn cael eu hariannu’n rhannol drwy fenthyca; a
(e) Bod y Pwyllgor yn cadarnhau nad oes ganddo unrhyw sylwadau i’r Cabinet eu hystyried cyn i’r Cyngor ystyried yr adroddiad ar Raglen Gyfalaf 2022/23-2024/25.